Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Social & Health Care Overview & Scrutiny Committee and to
inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol. Nododd fod gan y cyfarfod nesaf ar 9 Rhagfyr raglen drom a rhoddodd amlinelliad o'r eitemau oedd i'w cyflwyno. Yna cyfeiriodd at gyfarfod 20 Ionawr a rhoddodd ddiweddariad o'r eitemau ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Cyfarfod mis Ionawr oedd yr olaf ym mlwyddyn y cyngor oherwydd yr Etholiadau lleol. Os hoffai unrhyw aelod ychwanegu unrhyw eitemau ychwanegol at y Flaenraglen Waith gallent wneud hynny drwy gysylltu â hi.
Yna cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, gan gadarnhau bod y wybodaeth am Apwyntiadau Meddygon Teulu wyneb yn wyneb a'r diweddariad ar Covid Hir wedi'u dosbarthu. Ni chafwyd unrhyw ymateb gan LlC ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Sir y Fflint, ond cadarnhaodd yr eir i’r afael â hyn. Yna cyfeiriodd at yr awgrym gan y Cynghorydd Marion Bateman bod y pwyllgor yn cerdded o amgylch canol tref neu Barc Manwerthu i gael dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu pobl anabl bob dydd. Nid oedd hyn yn cael sylw ar hyn o bryd ond roedd ar y radar a byddai'n cael ei gynnwys yn rhaglen y flwyddyn ddinesig newydd. Roedd yr holl gamau gweithredu eraill wedi’u cwblhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 01/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 04/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: