Manylion y penderfyniad

Highways Asset Management Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To seek approval of the refreshed Highway Asset Management Plan (HAMP).

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd mai’r rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau lonydd cerbydau a throedffyrdd werth dros £1 biliwn.  Roedd cyflwr diogel a defnyddiadwy y rhwydwaith yn hanfodol i gynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, y ddau o fewn Sir y Fflint a gyda’r rhanbarth ehangach, a roedd y fframwaith Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn darparu egwyddorion i reoli’r rhwydwaith, adnabod pwysigrwydd isadeiledd priffordd i gefnogi nifer o amcanion allweddol y Cyngor.

 

            Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar ddatblygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor, a roedd yn egluro sut mae’r Cyngor yn defnyddio’r egwyddorion y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd i arwain y strategaeth i reoli a chynnal isadeiledd priffyrdd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod dyraniad cyllid yn cael ei wneud ar sail y meysydd sydd ei angen fwyaf, a roedd blaenoriaethau wedi newid oherwydd y risgiau i’r rhwydwaith a oedd wedi cael eu nodi yn ystod asesiadau gan gydlynwyr ardaloedd.  

 

            Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd ac Economi yr wythnos flaenorol, lle chafwyd drafodaeth ar gynllun peilot a gyflawnwyd yn defnyddio plastig wedi’i ailgylchu i gymryd lle yr ardaloedd bach o asffalt.  Roedd y Pwyllgor yn gefnogol o’r treial a gwnaethpwyd gais i gael treial ehangach. Bydd gwaith yn cael ei gyflawni i adnabod unrhyw safleoedd posibl ar gyfer treialon o’r fath.

                       

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod cynnwys yr adroddiad, ac adolygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael ei nodi;

 

 (b)      Bod y trefniadau cyfredol a chamau gweithredu’r portffolio i gynnal y rhwydwaith priffordd yn cael ei nodi; a

 

 (c)       Bod y polisi diwygiedig ar gyfer arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon strwythurau’r priffyrdd yn cael ei gymeradwyo.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021

Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/05/2021 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/05/2021

Accompanying Documents: