Manylion y penderfyniad

Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the Authority’s implementation plan and any national/regional updates

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) yr adroddiad oedd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru. Roedd y Ddeddf yma fod i ddod i rym ym mis Medi 2020 ond cafodd ei ohirio tan fis Medi 2021. Rhoddodd wybodaeth am yr addasiadau mae LlC wedi’u gwneud o ran trawsnewid Datganiad AAA i Gynllun Datblygu Unigol a’i weithredu ar gyfer rhai Ôl-16 gyda’r ystod oedran bellach yn 0- 25 oed. Mae LlC wedi adnabod plant mewn grwpiau blwyddyn penodol sydd ag AAA a fyddai’n symud i’r system newydd ar bwynt arferol o drawsnewid gyda Datganiad AAA yn parhau yn ei le hyd nes bod y trawsnewid wedi digwydd.

 

             Roedd Paula Roberts yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu (ADY) wedi arwain Trawsnewid ADY ar gyfer Sir y Fflint gan sicrhau bod ysgolion a’r awdurdod lleol yn barod ar gyfer y newidiadau yma.Cyhoeddwyd y cod gweithredol ym mis Ebrill ac roeddynt dal yn aros am canllawiau ar gyflawni gan LlC, ond gobeithio y byddent yn eu derbyn erbyn diwedd y tymor ac roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt ynghylch ymatebion i nifer o gwestiynau   Roedd ysgolion yn cael eu cefnogi o ran “ymarferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn” oedd yn greiddiol i hyn, ac mae Paula Roberts wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi mewn cysylltiad â’r cod er mwyn sicrhau bod ysgolion yn deall beth oedd ei angen ganddynt.      

           

            Ers 1 Ionawr 2021, roedd angen i bob ysgol fod â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ynghyd â Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn y Cyngor, ac fe gadarnhaodd bod yr unigolion yma wedi dechrau gweithio. Rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad am waith aml asiantaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg oedd yn cynnwys Swyddog Arweiniol Clinigol Addysgol Dynodedig o’r Bwrdd Iechyd. Roedd gwybodaeth am y system newydd, amddiffyniad cyfreithiol i blant a chyllid grant a ddefnyddiwyd i alluogi Cydlynwyr ADY i gefnogi ysgolion wedi bod yn amhrisiadwy iddynt. Gorffennodd yr Uwch Reolwr drwy ddweud bod LlC yn ystyried hyn fel proses niwtral o ran cost ond roedd yna oblygiadau i’r awdurdod oedd wedi ymestyn lefel y swyddogion oedd eu hangen i weithredu’r ymatebion o fis Medi.    

 

            Roedd y Prif Swyddog yn ddiolchgar am waith caled yr Uwch Reolwr, yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu a’r tîm a fu’n gweithio mor galed i gefnogi ysgolion.Diolch i ymdrechion y tîm yma, roedd Sir y Fflint mewn sefyllfa gadarn o ran y Ddeddf newydd hon.

 

            Roedd Cynghorydd Mackie yn cytuno â’r Prif Swyddog a dywedodd y dylai’r pwyllgor hefyd ddiolch i’r Uwch Ymgynghorydd Dysgu am ei gwaith hi yn sicrhau bod yr awdurdod wedi cyrraedd lle mae r?an.Gofynnodd y Cynghorydd Mackie y cwestiynau canlynol:-

 

            Yn gyntaf ym mhwynt 1.03 yr adroddiad mynegodd bryderon bod LlC wedi gosod yr amserlen i’w gweithredu ond bod Awdurdodau Lleol dal yn aros am y canllawiau er mwyn cefnogi hyn. Dywedodd yr Uwch Reolwr bod LlC wedi gweithio’n galed i geisio bodloni’r dyddiad cau gyda phwysau gan ysgolion ac awdurdodau lleol oedd yn ceisio ei wthio yn ôl eto. Roedd y broses wedi dechrau yn 2007 i ddarparu cefnogaeth gyfreithiol i blant oedd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a bod y cwestiynau dilys roedd Paula Roberts yn eu gofyn o’i safbwynt hi yn y swydd wedi galluogi adolygiad a thrafodaeth. Yna rhoddodd wybodaeth am y Gorchmynion Cychwyn gyda thrafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r Gweinidog i weld a ellir adolygu’r rhain. Roedd LlC yn gwrnado ar y pryderon a godwyd ac roedd eisiau sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn gywir.

 

            Yn ail ym mhwynt 1.08 gofynnodd y Cynghorydd Mackie am wybodaeth ar y system TG a gofynnodd a oedd yn hygyrch i bawb.Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr y byddai’r System TG yn darparu teclyn effeithiol i’r ysgolion gofnodi pob cysylltiad gyda rhieni, plant a phobl ifanc o’r dechrau yn sgil y posibilrwydd o her gyfreithiol a dywedodd nad oedd hyn wedi bod ar waith o’r blaen.  Fe fydd yn amhrisiadwy i’r awdurdod lleol ac ysgolion petai achosion yn mynd i’r Tribiwnlys gan ei fod yn cofnodi lefel yr ymyrraeth a chefnogaeth a roddwyd a sicrhau bod yr Awdurdod wedi bodloni ei gyfrifoldebau statudol o fewn yr amserlen a osodir gan y Ddeddf. Roedd modd i rieni gael mynediad i’r wybodaeth yma hefyd.  

 

            Yn drydydd, ym mhwynt 2.01 mynegodd y Cynghorydd Mackie bryderon am y llinell olaf “y cynnydd disgwyliedig mewn costau cyfreithiol i ymateb i’r lefel yr her gyfreithiol a ragwelir”. Gofynnodd am ragor o wybodaeth am hyn. Fe soniodd yr Uwch Reolwr am y sefyllfa yn Lloegr a newidiodd ei system yn 2014 ac sydd bellach â system gyfreithiol i ymdrin ag Anghenion Addysgol Arbennig.Gyda’r newidiadau yma dechreuodd yr amddiffyniad cyfreithiol ar y pwynt pan canfyddir bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu beidio, gyda’r hawl i apelio gan y plentyn neu riant o’r pwynt hwnnw.  Mae hyn wedi cael ei godi gyda’r Prif Swyddog a chydweithwyr cyfreithiol gan bod yna botensial am lawer o weithgarwch cyfreithiol gan ei bod yn system newydd. Fe soniodd y Prif Swyddog am yr adolygiad gan dîm y Prif Swyddog i adnabod goblygiadau i’r portffolio, cydweithwyr cyllid a chyfreithiol yn sgil y Ddeddf hon. Fel awdurdod lleol, fe geisiwyd cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau ei fod yn y sefyllfa orau i gynghori a chefnogi ysgolion i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer unrhyw heriau posibl. Byddai angen cynnwys cefnogaeth o fewn y tîm cyfreithiol er mwyn sicrhau bod capasiti.

 

            Cyfeiriodd Mrs Bartlett at gyfrifoldebau enfawr y Cydlynydd ADY mewn ysgolion a gofynnodd a oedd ysgolion wedi cael canllawiau a oedd yn swydd cyflogedig neu beidio ac a oedd hynny’n gyson ar draws ysgolion. Cytunodd yr Uwch Reolwr ei fod yn rôl gynhwysfawr a chadarnhaodd bod enghraifft o’r swydd-ddisgrifiad wedi cael ei ddosbarthu i ysgolion gydag argymhelliad gan LlC a’r awdurdod y dylai’r swydd hon fod ar yr un lefel ag uwch reolwyr y tîm arweinyddiaeth yn yr ysgol oherwydd ei chymhlethdod a’i phwysigrwydd.  O ran y cyflog roedd yr awdurdod wedi rhoi cyngor pan ofynnwyd, ac yna fe soniodd am y ffyrdd gwahanol mae ysgolion yn darparu hyn gyda rhai Penaethiaid yn y swydd ac eraill yn gofyn i nifer o weithwyr gydweithio gydag un person dynodedig yn y swydd er mwyn sicrhau bod prosesau ar waith. 

 

            Cyfeiriodd Mrs Stark at y system TG newydd a gofynnodd ai’r Cydlynydd ADY oedd â chyfrifoldeb am gofnodi’r wybodaeth ar gyfer eu hysgol neu a fyddai mwy o staff yn cael eu hyfforddi i wneud hyn. Roedd hi’n bryderus gan fod yna oblygiadau cyfreithiol os nad ydi’r wybodaeth yn cael ei chofnodi’n gywir.Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr y byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i ddechrau ar gyfer y Cydlynwyr ADY a chytunwyd y byddai angen monitro’r wybodaeth sy’n cael ei gofnodi ar y system yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn gywir petai’n mynd i dribiwnlysoedd.  Mae Gweinyddwr System TG wedi cael ei benodi i gefnogi’r system o’r enw ECLIPSE ac fe gynigiwyd y byddai cyfnod peilot yn cael ei lansio ym mis Medi.  Mae pedwar Awdurdod yng ngogledd Cymru wedi prynu’r system yma, a bu llawer o waith gan swyddogion penodol er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio’n iawn a’i fod yn addas i’r diben.  Bydd y Gweinyddwr yn cyflwyno hyfforddiant ar y system a chefnogi ysgolion gan mai’r gobaith yw y bydd ym mhob ysgol erbyn mis Hydref.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorydd Gladys Healey a Mrs Rebecca Star.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

 

Awdur yr adroddiad: Jeanette Rock

Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/06/2021 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: