Manylion y penderfyniad
Commencement of the Socioeconomic Duty
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To update Overview and Scrutiny of our preparedness for the commencement of the socio-economic duty.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategola’r Rheolwr Budd-Daliadau gyflwyniad ar y cyd ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Roedd hyn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn sgil anfantais economaidd-gymdeithasol.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:
· Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?
· Telerau allweddol
· Anghydraddoldebau canlyniadau
· Enghreifftiau o dlodi
· Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio
· Cyflawni’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud
· Canlyniadau gwell
· Astudiaeth achos
· Defnyddio’r Ddyletswydd
· Ar ôl y Ddyletswydd
Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi a oedd yn cysylltu ag un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd. Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.
Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd y Cyngor yn ei wneud am blant oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim oedd yn gorfod hunan-ynysu oherwydd bod aelod o’u pod yn cael prawf positif weithiau ar sawl achlysur. Roedd y Rheolwr Budd-daliadau wedi cadarnhau oherwydd yr holl waith a wneir yn ystod y cyfnod clo y llynedd ar daliadau uniongyrchol i deuluoedd a chefnogi Llywodraeth Cymru, roedd yr angen i dalu lwfans prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol wedi eu galluogi i wneud taliadau uniongyrchol i’r teuluoedd pan oedd plentyn yn gorfod hunan-ynysu.
Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y Cynghorydd Marion Bateman ar dlodi digidol, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol fel rhan o Gynllun y Cyngor roeddent yn edrych ar ddatblygu Pencampwyr a fyddai’n mynd gyda dyfeisiau a chefnogi pobl i fynd ar-lein. Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau yn y cyfamser, roedd staff Sir y Fflint yn cysylltu yn gallu sganio ac e-bostio dogfennau a hefyd llenwi ffurflenni yn electronig ar eu rhan.
Cynigiodd y Cynghorydd Marion Bateman yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cunnigham.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau am barodrwydd y Cyngor i fodloni’r ddyletswydd newydd.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 04/05/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: