Manylion y penderfyniad
Clwyd Pension Fund Business Plan 2021/22 to 2023/24
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Mr Latham gynllun busnes arfaethedig Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer y tair blynedd nesaf a nododd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Diolchodd i’r tîm am eu hymdrechion wrth baratoi’r cynllun busnes a nododd nad yw’n cynnwys unrhyw broblemau mawr newydd.
- Pwysleisiodd ei bod yn arfer dda i adolygu polisïau’r Gronfa’n rheolaidd felly cafodd hyn ei gynnwys.
- Gan ystyried ei bwysigrwydd, mae newid hinsawdd nawr yn cael ei ystyried ar wahân yn y cynllun.
- Mae canllawiau cronni ar fin cael eu cyhoeddi a gallai hyn gael effaith sylweddol ar y Gronfa.
- Cynhelir adolygiad actiwaraidd interim ar y Gronfa eleni.Mae’r adolygiad interim yn helpu cyflogwyr i gynllunio cyllidebau ac mae’n caniatáu eu swyddogion cyllid i nodi costau disgwyliedig o flaen llaw a fydd yn codi yn sgil y prisiad actiwaraidd nesaf.
- Mae’r adrannau gweinyddu a chyfathrebu nawr wedi eu rhannu’n feysydd sy’n cael neu ddim yn cael eu rheoleiddio.
Gofynnodd Mr Hibbert am adroddiad gan y Pwyllgor Cydlywodraethu am eu gweithgarwch benthyg stoc, fel yr addawyd.Cadarnhaodd Mr Latham yr adroddir am hyn ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cydlywodraethu, ond ei bod yn eitem gyfrinachol.Cadarnhaodd Mr Latham y bydd yn ymchwilio i weld sut y gellir rhannu’r wybodaeth hon gyda’r Pwyllgor.
Wrth gyflwyno adran ragarweiniol y Cynllun Busnes, cyfeiriodd Mrs Fielder at y pwyntiau allweddol canlynol:
· Nododd y cyflwyniad ar dudalen 128 a’r newidiadau a wnaed yn niweddariad y Gronfa i’r siartiau strwythur (a amlygir ar dudalen 129).
· Yn ogystal â materion busnes fel arfer, mae’r Gronfa wedi nodi pa feysydd y dylid canolbwyntio arnyn nhw dros y tair blynedd nesaf ar dudalennau 134 i 137.
· Fel rhan o’r llif arian, bu’r Gronfa’n eithaf ceidwadol wrth amcangyfrif cyfraniadau 2022/23 gan gofio mai hon fydd y flwyddyn nesaf ar ôl y prisiad actiwaraidd.
· Roedd amcangyfrif y gostyngiadau a’r dosraniadau yn y marchnadoedd preifat wedi parhau i fod yn anodd yn dilyn y farchnad gyfnewidiol a welwyd oherwydd COVID-19 yn Chwefror a Mawrth 2020. Yn y flwyddyn ddiwethaf, roedd dosraniadau’r Gronfa’n uwch na’r disgwyl. Roedd brasamcan y dosraniadau net y tu hwnt i’r gostyngiadau tua £17 miliwn o’i gymharu â chyllideb wreiddiol o tua £8 miliwn.Roedd hyn yn amlygu pa mor anodd yw amcangyfrif y ffigur hwn.
O ran y cyfandaliadau ar dudalen 139 y rhaglen, holodd y Cynghorydd Bateman am y cynnydd o tua £3 miliwn yn y gwir gyllidebau.Cadarnhaodd Mrs Fielder fod y ffigur hwn yn cynnwys cyfandaliadau ymddeol a grantiau marwolaeth.Nododd ei bod yn anodd pennu’r cyfandaliadau y mae aelodau’n bwriadu eu cymryd ar ôl ymddeol gan fod gan yr aelodau’r dewis i gyfnewid, sy’n arwain at gyfandaliad mwy yn gyfnewid am bensiwn llai.
Nododd Mr Vaughan y pwyntiau allweddol canlynol ynghylch cyllideb weithredol 2021/22 ar dudalen 140.
· Ar y cyfan, roedd y treuliau llywodraethu tua £2.9 miliwn yn y gyllideb, sy’n gynnych bychan ar gyllideb y llynedd.
· Roedd y gyllideb ar gyfer treuliau’r rheolwr buddsoddi tua £20.8 miliwn.
· Roedd costau gweithwyr wedi cynyddu, ond roedd hyn o ganlyniad i gostau ychwanegol mewn perthynas â rhaglen unioni McCloud.Ychwanegodd nad yw’r gyllideb yn cynnwys unrhyw gynnydd chwyddiannol, ar wahân i weithwyr sy’n derbyn llai na £24,000 o gyflog.
· Gwelwyd cynnydd yn y costau TG hefyd, o ran y gwaith ychwanegol yn ymwneud â dyfarniad McCloud.
· Roedd y costau ychwanegol yn ymwneud â rhaglen unioni McCloud tua £645,000, fel yr amlinellir ar wahân ar waelod tudalen 140.
· Roedd cyfanswm y costau cyllidebu gweithredol tua £26.2 miliwn.
Holodd y Cynghorydd Bateman am y cynnydd sylweddol mewn ffioedd ymgynghori ynghylch buddsoddiadau.Esboniodd Mr Vaughan fod y cynnydd yn sgil gwaith prosiect a gynlluniwyd gyda marchnadoedd preifat a buddsoddi cyfrifol yn bennaf.Ar y cyfan, gwaith a fydd yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf yw hwn.
Dywedodd Mr Everett fod y dyfarniad cyflog blynyddol posibl ar gyfer 2021/22 (a osodwyd yn genedlaethol) yn parhau i fod yn risg ariannol ar gyfer pob cyflogwr yn y sector cyhoeddus.
Disgwyliai Mrs Fielder i’r sesiynau hyfforddi barhau dros y we am y misoedd nesaf a chroesawodd farn y Pwyllgor a’r Bwrdd ynghylch sut y dylid cyflwyno hyfforddiant yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyodd y Pwyllgor y Cynllun Busnes yn Atodiad 1 yn ymwneud â chyfnod 2021/22 hyd at 2023/24, yn cynnwys y gyllideb ar gyfer 2021/22, sy’n cynnwys rhai newidiadau i’r strwythur staffio presennol, fel a nodwyd.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 03/08/2021
Dyddiad y penderfyniad: 23/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: