Manylion y penderfyniad
Suspension of Car Parking Charges
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval to extend the suspension of car parking charges until 30th June 2021.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y cais i atal taliadau parcio ceir unwaith yn rhagor nes 30 Mehefin 2021, a darparodd fanylion am effaith ariannol y cais. Byddai’r estyniad yn cefnogi ailagor canol trefi, ar ôl codi cyfyngiadau’r cyfnod clo, ac yn cefnogi ymdrechion i adfywio canol trefi fel a wnaed ym mis Mehefin 2020.
Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth i ymchwilio i ddulliau amgen digyffwrdd i dalu am gostau parcio ceir unwaith y byddai taliadau’n ailgychwyn.
Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad ac roedden nhw’n credu y byddai’n helpu cefnogi adferiad busnesau lleol.
Eglurodd y Prif Swyddog y rhesymeg y tu ôl i’r ail argymhelliad am y posibilrwydd o estyn y cyfnod, gan nad oedd yn hysbys ar hyn o bryd pa bryd y bydd y cyfnod clo yn dod i ben. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cadarnhau y gallai’r Cyngor wneud cais am golli incwm ar gyfer Chwarter 1-2 o 2021/22 ond nid oedd arian wedi’i gadarnhau ar gyfer hyn ar gyfer Chwarter 3-4.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo atal taliadau parcio ceir ym meysydd parcio canol tref Sir y Fflint tan 30 Mehefin 2021;
(b) Rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr, ar ôl trafod gyda’r Dirprwy Arweinydd a’r deilydd portffolio i ymestyn y cyfnod atal taliadau parcio ceir nes 30 Medi 2021, petai’r amgylchiadau ar y pryd yn cefnogi penderfyniad o’r fath; a
(c) Chefnogi adolygiad o ddulliau talu amgen am daliadau parcio megis taliadau digyffwrdd neu dalu dros y ffôn.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/03/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/03/2021
Dogfennau Atodol: