Manylion y penderfyniad

North Wales Adoption Service Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a progress report.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Adnoddau Plant yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar weithgareddau a datblygiad Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) am y cyfnod Ebrill 2020-Mawrth 2021. Rhoddodd sylwadau ar effaith COVID 19  dywedodd serch hynny fod GMGC yn cyrraedd ei dargedau ac yn dangos lefel uchel o berfformiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Adnoddau Plant ar y prif ystyriaethau, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at farchnata a recriwtio, hyfforddiant, darpar fabwysiadwyr mewn asesiad, plant yn barod i’w mabwysiadu, y panel mabwysiadu, staffio, a’r gwasanaethu cymorth ar ôl mabwysiadu. Adroddodd fod Adroddiad Terfynol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru - Gwerthuso’r Fframwaith Cymorth Mabwysiadu, Chwefror 2021, wedi’i atodi wrth yr adroddiad. Yn fras, dywedodd y Rheolwr Adnoddau Plant fod GMGC yn gwneud cynnydd sylweddol ac yn cyflwyno gwasanaethau cadarn, prydlon o ansawdd uchel ar lefel leol yn y gwasanaeth mabwysiadu.

 

Siaradodd yr aelodau i gefnogi gwaith GMGC a diolchwyd i’r Rheolwr Adnoddau Plant am ei waith caled ac am adroddiad cynhwysfawr.

 

Roedd gan y Cynghorydd Dave Mackie bryderon am yr effaith y mae’r trosiant mewn gweithwyr cymdeithasol yn ei chael ar blant a phobl ifanc mabwysiedig, rhieni mabwysiadol, a gofalwyr maeth, a soniodd am effaith diffyg dilyniant. Gan gyfeirio at dudalen 255 yr adroddiad, gofynnodd y Cynghorydd Mackie gwestiwn am y cymorth a roddir i blant a phobl ifanc mabwysiedig mewn ysgolion a cholegau. Eglurodd y Rheolwr Adnoddau Plant fod anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc mabwysiedig yn cael eu deall a dywedodd fod ysgolion yn cael gwybod am gefndir a ‘siwrnai’r plentyn. Rhoddodd sicrwydd fod gwaith cydweithredol yn digwydd gydag ysgolion i roi cymorth parhaus i’r plentyn/person ifanc mabwysiedig a dywedodd nad oedd unrhyw bryderon sylweddol wedi’u codi gan ysgolion yn Sir y Fflint am ymddygiad plant neu bobl ifanc oedd wedi cael eu mabwysiadu. Ymatebodd y Rheolwr Adnoddau Plant yn ogystal i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am wasanaethau cymorth ar ôl mabwysiadu a dywedodd fod y gwaith o amgylch y materion cymhleth hyn yn parhau i wella ac yn cael ei wreiddio mewn arferion dydd i ddydd.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am drosiant staff, soniodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu, am her recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol ac eglurodd fod Gogledd Cymru wedi sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen i edrych ar sut i ddenu a chadw gweithwyr cymdeithasol yn y Gwasanaethau Plant. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gwrdd â gweithwyr cymdeithasol i drafod y ffordd orau o gefnogi eu hanghenion, eu gyrfa broffesiynol a’u lles gyda’r awdurdodau lleol. Dywedodd fod gwaith lleol wedi digwydd hefyd i ehangu’r cyfleoedd gyrfa a’r strwythur i weithwyr cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Dave Mackie, awgrymodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu, ofyn i bobl ifanc drafod yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw mewn cyfarfod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant, a dod yn ôl â’u hymatebion i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Pwyllgor yn nodi gweithgareddau a gwaith GMCG, a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn fodlon fod y rheiny a effeithir gan fabwysiadu yn derbyn ymyriadau diogel, prydlon a phriodol.

 

Awdur yr adroddiad: Neil Ayling

Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2022

Dyddiad y penderfyniad: 27/05/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: