Manylion y penderfyniad
Commencement of the Socioeconomic Duty
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update of our preparedness for the commencement of the socio-economic duty.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd y byddai’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn dod i rym ar 31 Mawrth 2021 yng Nghymru. Roedd y ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau strategol, i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.
Byddai’r rhestr derfynol o gyrff cyhoeddus perthnasol yn cael ei chyhoeddi yn y Rheoliadau a’r canllawiau statudol.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad yn amlinellu’r camau gweithredu sy’n cael eu gweithredu i baratoi ar gyfer y ddyletswydd newydd, a fyddai’n ddull o gefnogi’r bobl mwyaf diamddiffyn mewn cymdeithas.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol;
(b) Bod gan y Cyngor sicrwydd o fod yn barod ar gyfer bodloni’r ddyletswydd newydd; a
(c) Bod yr adroddiad yn cael ei rannu gyda phob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol am ofynion y ddeddfwriaeth.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/03/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/03/2021
Dogfennau Atodol: