Manylion y penderfyniad
Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y farchnad a’r economi hyd t 31 Rhagfyr 2020 a chrynhodd y pwyntiau canlynol:
· Roedd yr ymdeimlad o ymdrin a risg yn dal i ddod ag elw cadarnhaol mewn asedau.
· Roedd Banciau Canolog wedi ysgogi’r economi oherwydd effaith ansefydlog lledaeniad COVID-19.
Cadarnhaodd Mr Buckland fod gwerth y Gronfa ar y farchnad wedi cynyddu o tua £120 miliwn yn y flwyddyn erbyn 31 Rhagfyr 2020 i gyfanswm o £2.1 biliwn, sef y ffigwr uchaf erioed.Roedd y cynnydd hwn oherwydd effaith chwyddiant pris asedau yr oedd Mr Harkin wedi ei drafod.Roedd perfformiad y Gronfa dros 3 mis, 12 mis a 3 blynedd yn +6.2%, +6.4% a +5.5% y flwyddyn yn eu trefn.
Tynnodd Mr Buckland sylw at y tri tharged/meincnod gwahanol o baragraff 1.04 ar dudalen 147. Y targed actiwaraidd oedd y lefel targed tymor hir a rhagdybiwyd gan yr Actiwari.Y targed strategol oedd yr elw posibl ar gyfer strategaeth fuddsoddiad y Gronfa, a chyfanswm y meincnod oedd y targedau cyfansawdd gan bob un o’r rheolwyr cronfa sylfaenol.Mae’r Gronfa wedi perfformio’n well na’r targed actiwaraidd a’r targed strategol dros Chwarter 4 2020 a blwyddyn 1.Roedd ychydig o danberfformio ar y meincnod cyfan.
O safbwynt dosbarth asedau, mae’r Gronfa bellach yn unol â phob targed strategol.Ond, roedd perfformiad asedau marchnad breifat y tu ôl i farchnadoedd rhestredig ac yn llawer is na’r meincnod. Sicrhaodd Mr Buckland y Pwyllgor nad oedd ganddo unrhyw bryderon yngl?n a hyn.
Diolchodd y Cyng. Bateman i’r tîm am eu gwaith a’r adroddiad cynhwysfawr ar gyfer yr eitem agenda hon.
Gofynnodd Mrs McWilliam ai meincnod neu darged strategol oedd y targed o +5.4% dros y chwarter.Cadarnhaodd Mr Buckland mai meincnod oedd hwn.
Dywedodd Mr Buckland ei fod yn croesawu ac yn annog adborth ar yr adroddiad monitro gan ei fod yn ffordd newydd o adrodd.
Gofynnodd Mr Everett beth oedd y cyngor a’r ymdeimlad o hyder yn y rhagolygon tymor byr ar gyfer Chwarter 1 a 2 yn 2021. Cadarnhaodd Mr Hankin fod y rhagdybiaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn gymharol gadarnhaol ar gyfer asedau risg. Disgwylid i ecwiti ddod yn ei ôl yn gymharol gryf o ystyried y brechlyn byd-eang rhag COVID-19.Roedd buddsoddwyr wrthi'n barhaus yn ceisio edrych ymlaen o ran sefyllfa COVID-19.Ond, rhybuddiodd fod y farchnad yn dal yn hynod anwadal ac fel y gwelwyd yn ddiweddar, gall nerfusrwydd effeithio ar farchnadoedd.
Cwestiynodd y Cyng. Bateman sut fyddai cyfraddau llog negyddol yn effeithio ar y Gronfa.Atebodd Mr Harkin fod y DU mewn sefyllfa economaidd newydd.Dywedodd fod elw byd-eang o fondiau yn isel iawn o ystyried y ffigurau diweithdra, cyfradd chwyddiant ac effaith ôl Brexit.
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor berfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2020 ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2021
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: