Manylion y penderfyniad

North Wales Dementia Strategy and the Flintshire Local Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a progress report

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf am ddatblygu strategaeth ar gyfer gwasanaeth gofal a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia yn Sir y Fflint. Rhoddodd drosolwg o’r gefnogaeth a gweithgareddau niferus sy’n cael eu cynnal yn Sir y Fflint i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.Fe soniodd hefyd am y gwaith cydweithio, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant y mae’r Cyngor wedi’i wneud gyda sefydliadau, busnesau, eglwysi, ysgolion, cartrefi gofal a nyrsio lleol.Fe soniodd yr Aelod Cabinet am heriau pandemig Covid-19 a dywedodd bod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio ac o gadw cysylltiad wedi cael eu croesawu er mwyn sicrhau nad yw pobl a’u gofalwyr yn cael eu hynysu ac yn parhau i gael eu cynnwys a derbyn gofal a chefnogaeth.  

 

Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion at y strategaeth dementia rhanbarthol a chynllun gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), a dywedodd mai’r bwriad oedd cynnwys rhai elfennau o’r strategaethau hynny mewn i’r cynllun gweithredu lleol ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd y byddai cyllid y cynllun gweithredu dementia oedd yn rhan o raglen Cronfa Gofal Integredig yn parhau.Fe gyflwynodd y Swyddog Arweiniol Lles a Phartneriaeth a gyflwynodd yr adroddiad.

 

Fe soniodd y Swyddog Arweiniol Lles a Phartneriaeth am ddyfodol a blaenoriaethau wrth symud ymlaen, cychwyn prosiectau a syniadau newydd, cyfle ar gyfer strategaeth rhanbarthol a rhannu arfer orau gydag awdurdodau eraill. Dywedodd bod y Cyngor yn ymrwymedig i gael ei strategaeth dementia ei hun ar gyfer Sir y Fflint a dywedodd y byddai’r blaenoriaethau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd a’u diweddaru a’u gosod gan weithwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd proffesiynol, pobl oedd â phrofiad o ddementia, a grwpiau cymunedol, a sefydliadau trydydd sector. Fe soniodd am y prif themâu yn y Strategaeth Rhanbarthol, sef iechyd a chymuned oedd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol (fel y manylir yn yr adroddiad).  

 

Cyfeiriodd y Swyddog Arweiniol hefyd at y prif flaenoriaethau ar gyfer Strategaeth Dementia Sir y Fflint oedd i’w gweld ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.Dywedodd bod y Strategaeth yn ei ffurf drafft ar hyn o bryd a bod ymgynghori a chydweithio wedi digwydd gyda budd-ddeiliaid allweddol.Byddai’r Strategaeth gyflawn yn cael ei dilysu gyda Gr?p Llywio Strategaeth Dementia Rhanbarthol ym mis Mawrth 2021 er mwyn ei chyhoeddi a gweithredu’r prif gamau gweithredu o fis Ebrill 2021.

 

Fe soniodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion am flaenoriaeth newydd sydd yn ymwneud â chefnogaeth min nos ar gyfer gofalwyr sy’n edrych ar ôl pobl gyda dementia, y gofal estynedig, a’r gefnogaeth ar gyfer gofal diwedd oes.

 

Gan ymateb i sylw gan y Cadeirydd yngl?n â dryswch y gallai rhywun gyda dementia ei gael oherwydd y nifer uchel o weithwyr gofal sydd yn rhan o’u gofal, fe eglurodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod y Cyngor ac asiantaethau eraill wedi cyflwyno mesurau i helpu i feithrin perthynas rhwng y defnyddiwr gwasanaeth, eu gofalwr a’r gweithiwr gofal.Fe gyfeiriodd at ddefnyddio lluniau o weithwyr gofal a phroffiliau un tudalen iddynt ddod yn gyfarwydd â nhw a meithrin dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Carol Ellis am y pwysau cynyddol ar wasanaethau yn sgil y pandemig a’r cynnydd a ragwelir mewn galw pan fydd cyfyngiadau’n dod i ben, gan sôn am gynnydd mewn ceisiadau am asesiad a seibiant fel enghreifftiau. Fe soniodd y Cadeirydd hefyd am yr ôl-groniad o bobl sy’n aros am ddiagnosis.Roedd y Swyddog Arweiniol Lles a Phartneriaeth yn cydnabod y pryderon a godwyd a dywedodd mai adferiad ac ailgychwyn fyddai’r prif ffocws yn ystod y chwe mis cyntaf. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â’r gefnogaeth i ofalwyr, fe eglurodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod cefnogaeth yn cael ei darparu trwy wasanaethau gofal seibiant a chyfeiriodd at wasanaeth min nos i alluogi’r gofalwr i gael seibiant/cwsg, a chynyddu taliad uniongyrchol i’r gofalwr trwy Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru i gynorthwyo’r gofalwr.Fe ddywedodd hi hefyd y byddai gofalwyr yn rhan o’r Gr?p Llywio ar gyfer Cynllun Gweithredu Dementia a bod y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint i sicrhau bod gofalwyr yn cael llais.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie bod 13% o’r holl farwolaethau yn 2017 oherwydd dementia ac mai dyna oedd y prif achos o farwolaeth, serch hynny, roedd ymchwil yn dangos nad oedd hyn wedi’i gofnodi ar dystysgrif marwolaeth 40% o bobl oedd â dementia.Dywedodd y gall diagnosis gymryd rhwng 2 a 4 blynedd ar gyfartaledd, ac nid oedd y mwyafrif o bobl yn cael diagnosis nes bod y cyflwr yn wael iawn.Dywedodd bod y broblem yn cynyddu ac fe siaradodd am yr angen i godi ymwybyddiaeth i ddenu rhagor o gyllid.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud i ddatblygu Strategaeth Dementia Sir y Fflint trwy gydweithio gyda darparwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i fodloni amcanion Cynllun y Cyngor; a

 

 (b)      Bod datblygiad a gweithrediad pellach strategaeth fanwl a’u cynllun gweithredu i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn Sir y Fflint a’u teuluoedd a gofalwyr, yn cyd-fynd â strategaeth Dementia Rhanbarthol Gogledd Cymru a gyhoeddwyd yn 2020, yn cael ei gefnogi.

 

 

Awdur yr adroddiad: Jane Davies

Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: