Manylion y penderfyniad
Review of Protocol for Meeting Contractors
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd bod y Protocol i Aelodau ar gyfer Delio â Chontractwyr/Datblygwyr a Thrydydd Partïon Eraill yn rhoi cyngor iddynt ynghylch sut i osgoi peryglu’r lefelau gofynnol o ran y didueddrwydd a’r tryloywder sy’n ofynnol ohonyn nhw a’r Cyngor wrth ddyfarnu contractau neu ystyried ceisiadau cynllunio.
Roedd yn bryd i’r protocol gael ei adolygu fel rhan o raglen dreigl y Pwyllgor o adolygu’r Cyfansoddiad. Roedd adnewyddu’r protocol yn rheolaidd fel hyn yn gyfle i wirio bod y ddogfen yn dal i fod yn gyfredol.
Roedd y canllawiau ar ddelio â chontractwyr posibl yn parhau i fod yn angenrheidiol a dim ond angen diweddariadau bychan. Roedd y canllawiau ar ddelio gyda datblygwyr angen eu diweddaru. Fodd bynnag, wrth fynd i’r afael â’r materion hyn, roedd y protocol yn gorgyffwrdd â’r Cod Canllawiau Cynllunio. Byddai’n well pe na bai’r protocol yn ceisio dyblygu cyngor a roddwyd yn rhywle arall a dylid tynnu’r rhannau yn ymwneud â chynllunio o’r ddogfen a diweddaru’r Cod Canllawiau Cynllunio yn lle.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Julia Hughes, dywedodd y Swyddog Monitro yr ymhelaethir ar wybodaeth ynghylch Aelodau’n datgan os oedd rhywun wedi siarad â nhw bedair gwaith neu fwy, pan fyddai’r Cod Canllawiau Cynllunio yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau. Gan ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd Cod Ymddygiad yr Aelodau wedi cael ei newid, ond roedd wedi gwneud y geiriad ym mhwynt 2.3 yn fwy clir.
Gofynnodd Julia Hughes a ddylid cyfeirio’r Polisi Anrhegion a Lletygarwch at y Pwyllgor Safonau. Esboniodd y Swyddog Monitro nad oedd Polisi o’r fath, a bod y rhwymedigaethau ar gyfer datgan anrhegion a lletygarwch wedi’u hamlinellu yng Nghod Ymddygiad yr Aelodau.
Eglurodd y Cynghorydd Johnson yr anawsterau a oedd weithiau’n codi oherwydd cyswllt gan ddatblygwyr mewn perthynas â cheisiadau cynllunio ac y dylai hawliau Aelodau wrth geisio penderfyniad y Pwyllgor gael eu diogelu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Rob Dewey, dywedodd y Swyddog Monitro y dylai’r swyddogion canlynol gael eu cofnodi yn adran 5.6 y protocol: Prif Weithredwr, Swyddog Adran 151, Swyddog Monitro a Dirprwy Swyddog Monitro.
Byddai’r protocol yn cael ei ddiweddaru a’i adrodd i’r Gr?p Strategaeth Cynllunio cyn dychwelyd i’r Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y rhannau o’r ‘Protocol i Aelodau ar gyfer Delio â Chontractwyr/Datblygwyr a Thrydydd Partïon Eraill’ sy’n ymwneud â delio â phartïon a allai fod yn cynnig neu'n ceisio contract â'r Cyngor yn cael eu diwygio fel y dangosir yn yr atodiad ac uchod; a
(b) Bod y rhannau o’r Protocol i Aelodau ar gyfer Delio â Chontractwyr/Datblygwyr a Thrydydd Partïon Eraill yn ymwneud â Chynllunio yn cael eu trosglwyddo i’r Cod Canllawiau Cynllunio (i'r fath raddau nad ydynt eisoes wedi'u hymgorffori ynddo) a bod y Cod Canllawiau Cynllunio yn cael ei ddiweddaru.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: