Manylion y penderfyniad

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Housing Revenue Account (HRA) Budget for 2021/22, the HRA Business Plan and the summary 30 year Financial Business Plan for approval.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i gymeradwyo cyllideb Refeniw a Chyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2021/22, y Cynllun Busnes HRA a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd fel y cymeradwywyd gan y Cabinet.  Rhoddodd y Prif Swyddog a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) gyflwyniad yn cwmpasu:

 

·         Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru (LlC)

·         Codiad Rhent Arfaethedig 2021/22;

·         Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhentu Ehangach

·         Taliadau gwasanaeth

·         Incwm arall

·         Cynnig Buddsoddi i Arbed

·         Pwysau ac Arbedion Effeithlonrwydd Arfaethedig

·         Cronfeydd Wrth Gefn

·         Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22

·         Buddsoddiad Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhaglen Gyfalaf

·         Datblygu Safonau Ansawdd Tai diwygiedig Cymru (SATC)

·         Rhaglen Gyfalaf 2021/22<0}

·         Arian Cyfalaf HRA 2021/22

 

Roedd y cynnydd arfaethedig mewn rhenti yn bodloni gofynion Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru i ystyried fforddiadwyedd a gwerth am arian i denantiaid. Byddai'r cynnydd graddol gohiriedig tuag at adennill costau llawn taliadau gwasanaeth yn helpu i ddiogelu tenantiaid yn ystod y sefyllfa argyfwng ac i ganiatáu gwaith pellach i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel.  Dangosodd diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf fod 447 o eiddo wedi'u darparu hyd yma drwy'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) a 148 o unedau eraill y tu allan i SHARP gan greu capasiti ychwanegol yn y farchnad dai yn Sir y Fflint.

 

Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Dave Hughes a oedd yn canmol y modd y darperir gwasanaethau tai er gwaethaf heriau'r sefyllfa argyfwng. Dywedodd mai'r cynnydd arfaethedig mewn rhenti oedd yr isaf a osodwyd gan y Cyngor ers pum mlynedd ac y byddai'r Rhaglen Gyfalaf uchelgeisiol yn sicrhau buddsoddiad parhaus yn rhaglen adeiladu tai'r Cyngor.

 

Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Ian Dunbar a dalodd deyrnged i waith y Prif Swyddog a'i dîm, a chefnogaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau, yr oedd yn Gadeirydd arno.

 

Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad ac yn benodol, darparu 595 o unedau tai a chynnal lefelau SATC i ddiwallu anghenion pobl leol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad ar effaith yr adolygiad o safleoedd garejys.

 

Hefyd yn siarad o blaid, roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn croesawu gwariant cyfalaf a gweithio mewn partneriaeth ar lety i'r digartref.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i gwestiwn y Cynghorydd Mike Peers ar y dull o ymdrin â cham nesaf cynlluniau tai SHARP. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth am y gyllideb atgyweirio a chynnal a chadw ac ailfuddsoddi yn y Rhaglen Gyfalaf gan gynnwys symiau gohiriedig.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod argymhellion y Cabinet ar 16 Chwefror 2021 yn cael eu cymeradwyo:

 

(a)       Bod y Cyngor yn cefnogi cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 fel a nodir yn yr atodiadau gyda’r adroddiad;

 

(b)       Bod y Cyngor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 0.68% (a hyd at £2);

 

(c)       Bod y Cyngor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.03 yr wythnos mewn plotiau garejys;

 

(d)       Bod y Cyngor yn cefnogi ac yn cymeradwyo rhewi’r cynnydd yn y broses o adennill Tâl Gwasanaeth am flwyddyn; a

 

(e)       Bod y Cyngor yn cefnogi’r Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2021/21 fel y nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2021

Dyddiad y penderfyniad: 16/02/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: