Manylion y penderfyniad

Plas yr Ywen (Holywell Extra Care)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a progress report

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig a’r Arweinydd Oedolion yr adroddiad i roi gwybodaeth am gynnydd cyfleuster gofal ychwanegol newydd gwerth £8.5 miliwn yn Nhreffynnon.  Er y dylai’r cyfleuster fod wedi agor ym mis Mawrth 2020, dywedodd bod y rheoliadau tân wedi newid cyn ei agor a bod hyn wedi golygu gwneud gwaith pellach er mwyn cyflawni’r rheoliadau newydd.  Hefyd, roedd Covid-19 wedi creu heriau ychwanegol, ac roedd hyn wedi golygu mwy o amser i gwblhau’r datblygiad.  Bydd y cyfleuster yn cynnig 55 o randai moethus gyda nifer ohonynt yn cael eu clustnodi ar gyfer pobl â Dementia.  Ychwanegodd bod datrysiad digidol clyfar newydd yn cael ei ddefnyddio yng nghynllun Plas yr Ywen (Hwb Byw Appello), a oedd yn cynnwys nodweddion fel larwm argyfwng digidol, galwadau llais a fideo, hysbysiadau, mynediad drws fideo, cydnawsedd teleofal a chysylltedd cartref clyfar.  Y buddiannau i’r staff oedd cofnodion galwadau a hanes 7 niwrnod, rheoli dyfeisiau larwm gwddf, rhybuddion a hysbysiadau oes batris.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr, er bod y lleoedd yn llawn fis Mawrth y llynedd, nid oedd angen lle mwyach ar rai o’r bobl y dyrannwyd lle ar eu cyfer, am resymau amrywiol.  Darparodd sicrwydd bod 45 o geisiadau ac y byddai pobl yn symud i mewn cyn gynted ag y byddai’n ymarferol.  Y nod oedd dilyn traean angen lefel uchel, traean lefel canolig a thraean nad oes angen cymorth arnynt eto.  Roedd y staff a oedd wedi’u recriwtio wedi’u dosbarthu i feysydd gwaith arall i ddarparu gofal, e.e. T? Treffynnon.  Byddai’r dyddiad agor yn cael ei adolygu ym mis Chwefror, gyda’r bwriad o agor yng nghanol mis Mawrth, yn amodol ar y mesurau cyfyngiadau symud.


Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion a’i thîm am eu gwaith rhagorol.  Cytunodd y Cadeirydd â sylwadau’r Cynghorydd Mackie, a diolchodd i’r Uwch Reolwr a’i thîm am eu cyflawniadau yn ystod y cyfnod heriol presennol.

 

Croesawodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol y sylwadau cadarnhaol gan yr Aelodau.  Cyfeiriodd at Gynllun y Cyngor a sut yr oedd y ddarpariaeth yn cael ei chynyddu er mwyn gwneud yn si?r bod Sir y Fflint yn ddarparwr arweiniol yn y Sir a dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn dangos ymrwymiad i ehangu’r ddarpariaeth fewnol ymhellach yn y dyfodol.  Croesawodd y Cadeirydd y sylwadau gan y Prif Swyddog a dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai’r Cyngor yn parhau i adeiladu cyfleusterau gofal ychwanegol yn y dyfodol, ac awgrymodd nad oedd ardaloedd fel Penyffordd, Brychdwn ac ardaloedd eraill yn derbyn darpariaeth yn y cyfnod presennol.

                       

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan David Wisinger a chawsant eu                   heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd Cynllun Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen a’r amserlen weithredol.

 

 

Awdur yr adroddiad: Susie Lunt

Dyddiad cyhoeddi: 07/04/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: