Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 7)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

This regular monthly report provides the latest revenue budget monitoring position for 2020/21 for the Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on actual income and expenditure as at Month 7, and projects forward to year-end.

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar lwyddiant y Cyngor wrth wneud hawliadau i Lywodraeth Cymru am gyllid Grant Argyfwng a sut y cysonwyd yr hawliadau hyn yn erbyn y gronfa argyfwng wrth gefn o £3m a neilltuwyd ar ddechrau’r argyfwng.Roedd y cyflwyniad yn trafod:

 

·         Cyhoeddiadau Cyllid Cenedlaethol

·         Hawliadau’r Gronfa Galedi

·         Hawliadau Colled Incwm

·         Cronfa Hapddigwyddiad Gymeradwy o £3m

 

Cydnabu’r cyflwyniad lwyddiant cydweithio rhwng Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru ers dechrau’r sefyllfa argyfwng. Nodwyd y byddai balans y Gronfa Hapddigwyddiad gymeradwy yn £2.616m pe bai pob hawliad yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr. Roedd yr elfennau colled incwm, a oedd yn aros am gymeradwyaeth, wedi cael eu hystyried yn y rhagamcanion monitro cyllideb a byddent yn arwain at symudiad cadarnhaol pe baent yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.  Byddai’r cyflwyniad yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 7 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai pethau’n parhau heb eu newid gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Cyllid Grant Argyfwng Llywodraeth Cymru.

 

Roedd y diffyg gweithredol o £0.196m yn gadarnhaol o’i gymharu â’r £0.373m yn y mis blaenorol a byddai’n gadael balans disgwyliedig o £1.415m Gronfa Hapddigwyddiad.  Roedd yr adolygiad o wariant dianghenraid wedi helpu i leihau’r sefyllfa gyffredinol o £0.700m hyd yma drwy oedi gwariant a chadw swyddi gwag.

 

Ymysg yr amrywiadau sylweddol oedd £0.345m o gostau ychwanegol ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, a sefyllfa well o £0.148m ar gyfer Gwasanaethau Stryd a Chludiant a £0.270m ar gyfer Llywodraethu, fel y nodir yn yr adroddiad.  Roedd risgiau newydd megis y cynnydd i’r galw am brydau ysgol am ddim yn cael eu monitro’n agos.

 

Amcangyfrifwyd y byddai 96% o arbedion effeithlonrwydd wedi’u cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Roedd y balans diwedd blwyddyn a ragamcanwyd o Gronfeydd Hapddigwyddiad yn £1.415m, gan dybio y byddai’r gorwariant o £0.196m yn cael ei dalu gan y swm oedd ar gael yn y gronfa wedi'i glustnodi at argyfwng o £3m, a fyddai’n gadael swm o £2.446m.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd tanwariant arfaethedig o £0.460m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £2.469m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.

 

Diolchodd y Cynghorydd Banks i’r swyddogion am yr adroddiad a’u llwyddiannau gyda chael cyllid grant.

 

Diolchodd y Cynghorydd Heesom i’r swyddogion am y cyflwyniad gwell o amrywiadau.  Mewn ymateb i gwestiynau, adroddodd y Prif Weithredwr ganlyniad cadarnhaol ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ad-dalu colledion incwm meysydd parcio yn ystod Chwarter 2. Siaradodd hefyd am yr heriau o ran adfer marchnadoedd yn ystod y sefyllfa argyfwng oherwydd pryderon diogelwch.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad ar y gostyngiad yn y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer Cyllid Corfforaethol a Chanolog a byddai swyddogion yn darparu ymateb ar wahân. Galwodd am barhau ag atal ffioedd meysydd parcio i gynorthwyo canol trefi. Mewn ymateb i gwestiynau, darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurder o ran effaith y  dyfarniad cyflog i athrawon. O ran y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, gobeithiwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y ddau chwarter sy’n weddill.

 

Siaradodd y Cynghorydd Thomas am ei phryderon ynghylch costau cynyddol cludiant a byddent yn parhau i gael eu monitro. 

 

Yn dilyn awgrym gan y Prif Weithredwr, cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn derbyn adroddiad ym mis Ionawr ar y risgiau agored o’r cyfnod argyfwng a chysoni cyllid Grant Argyfwng, ynghyd â dadansoddiad o risgiau tymor hirach ar y gofrestr risg.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Shotton a Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 Mis 7, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd yna faterion oedd angen eu codi gyda’r Cabinet y tro hwn.

Awdur yr adroddiad: Rachel Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 09/02/2021

Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: