Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy Update (Streetscene and Transportation Portfolio)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s)

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer meysydd portffolio perthnasol y Pwyllgor. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud fod y fersiwn ddiweddaraf o'r gofrestr risg a'r gyfres o weithredoedd lliniaru risg ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant wedi'u hatodi i'r adroddiad.  Yn ychwanegol rhoddwyd diweddariad yn yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o 9 amcan adfer y portffolio.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y 6 risg coch yn ymwneud â Covid, fel yr eglurwyd yn yr atodiad i’r adroddiad. Adroddodd hefyd ar y cynnydd a wnaed ar y 9 amcan adfer yn yr adroddiad a thynnodd sylw at yr amcanion i gyfnerthu safonau gwaith Gwasanaethau Stryd ar lefelau cyn COVID; dychwelyd y gweithlu rheng flaen i oriau gwaith safonol er mwyn sicrhau defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael; cynnydd ar ddatblygiad seilwaith gwastraff i gefnogi mwy o botensial i ailgylchu a chynnal y rhwydwaith priffyrdd dros gyfnod y gaeaf.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle yngl?n â'r tâl am y gwasanaeth gwastraff 'bin brown' yng ngoleuni ataliad dros dro diweddar y casgliadau.  Gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd pa gamau sy’n cael eu cymryd i rwysto'r broblem o ddraeniau wedi'u blocio ar strydoedd a phriffyrdd o ganlyniad i ddail wedi disgyn.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai preswylwyr sydd wedi talu'r ffi lawn am y gwasanaeth 'bin brown' yn cael cynnig gostyngiad y tro nesaf fel iawndal am golled dros dro y gwasanaeth yn ystod yr argyfwng Covid-19. Mewn ymateb i’r pryderon am ddraeniau wedi’u blocio dywedodd y Prif Swyddog fod pedwar cerbyd yn gweithio 6 diwrnod o'r wythnos i fynd i'r afael â'r broblem a bod cydlynwyr Gwasanaethau Stryd yn monitro'r sefyllfa ac yn adnabod mannau problemus.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Patrick Heesom y Prif Swyddog a’i dîm am eu cynnydd a'r gwelliannau a wnaed drwy'r rhaglen o drwsio tyllau yn y ffyrdd.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Kevin Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i  gefnogi strategaeth adfer

y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

Awdur yr adroddiad: Debbie Betts

Dyddiad cyhoeddi: 16/12/2020

Dyddiad y penderfyniad: 10/11/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: