Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Social & Health Care Overview & Scrutiny Committee and to
inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at gyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 11 Tachwedd, i ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig:Amlinelliad o Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22. Cyfeiriodd yr Hwylusydd hefyd at gyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 3 Rhagfyr a dywedodd y byddai’r eitem ar Gytundeb Gofalwyr Ifanc – GOGDDC yn cael ei symud i’r cyfarfod dilynol a drefnwyd ar gyfer 21 Ionawr 2021. Dywedodd hefyd efallai y byddai’r diweddariad ar y Prosiect Gweddnewid Cymuned yn cael ei symud i gyfarfod yn y dyfodol hefyd. Rhoddodd wahoddiad i’r Aelodau gysylltu â hi neu’r Cadeirydd os hoffent ychwanegu unrhyw eitemau pellach at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd am gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol. Dywedodd fod y cam gweithredu oedd yn deillio o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi wedi ei gwblhau ac nad oedd unrhyw gamau eraill i weithredu arnynt.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Michelle Perfect ac eiliwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod fersiwn drafft y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, drwy ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 14/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: