Manylion y penderfyniad

Member IT support

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ystyried y cynigion ar gyfer gwell darpariaeth TG i Aelodau.  Darparodd wybodaeth gefndir ac esboniodd nad oedd darpariaeth TG bresennol yr Awdurdod i’r Aelodau, yn seiliedig ar ddarparu ipads, yn ddigonol i ateb holl ofynion TG yr Aelodau er mwyn eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn cyfarfodydd o bell. I liniaru'r pryderon hyn ac i alluogi Aelodau sydd heb offer TG ar hyn o bryd, roedd yr Awdurdod wedi ymchwilio i ddarparu gliniaduron i Aelodau.    Byddai’r gost yn cael ei gosod yn erbyn costau cynyddol argraffu a phostio agendâu. Byddai modd i Aelodau wrthod y ddarpariaeth hon.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod penderfyniadau 9 a 10 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) yn ymwneud â chymorth i Aelodau, gan gynnwys bod y Cyngor yn darparu i‘w haelodau ‘cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i roi mynediad electronig at wybodaeth briodol’, heb gost i’r aelod unigol. Am y rheswm hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynnig ‘lwfans band eang’ o hyd at £30 y mis i Aelodau. Esboniodd y Prif Swyddog bod nifer o Aelodau, er bod ganddynt y ddarpariaeth band eang uchaf yn eu hardal,  yn cael anawsterau cysylltu gan nad yw lled eu band eang yn ddigonol, ac i gydnabod hynny byddai dyfeisiau Mi-Fi yn cael eu darparu. Byddai cost y Mi-Fi yn cael ei osod yn erbyn lwfans band eang yr Aelod sef £30. Byddai modd i Aelodau unigol wrthod y cynigion os ydynt yn fodlon â'u darpariaeth bresennol.  

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r ymholiadau a godwyd gan Aelodau yngl?n â materion technegol yn ymwneud â diogelwch, capasiti a chyfluniad, y gliniaduron newydd arfaethedig ac uwchraddio unrhyw offer TG personol a ddefnyddir gan Aelodau.  Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylid cynnal arolwg manwl i benderfynu pa offer TG sydd eu hangen ar unigolion mewn gwirionedd a pha mor addas yw'r offer personol a ddefnyddir gan yr holl Aelodau.Dywedodd y byddai hyn o bosibl yn lleihau costau'r Awdurdod os yw’n darparu offer nad oes eu hangen mewn gwirionedd.Esboniodd y Prif Swyddog, pe bai’r Pwyllgor yn penderfynu cytuno ag argymhellion yr adroddiad, y byddai swyddogion yn ymgynghori ag Aelodau yngl?n â’r opsiynau sydd ar gael i sicrhau bod eu gofynion TG yn cael eu cyflawni a bod unrhyw broblemau yn cael eu datrys.  

 

Cynigwyd yr argymhelliad canlynol gan y Cynghorydd Chris Bithell ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

  • Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo darparu gliniadur gan y cyngor i bob Aelod sy'n gofyn am un. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers bod yr argymhelliad yn cael ei newid i gynnwys gofyniad i gynnal arolwg manwl o Aelodau i benderfynu a oes angen iddynt ddefnyddio eu hoffer eu hunain a chytunodd y Pwyllgor â hynny.

Cynigwyd yr argymhelliad canlynol gan y Cynghorydd Chris Bithell ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

  • Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo cyflwyno lwfans band eang hyd at £30 y mis i bob Aelod o’r Cyngor sy’n gofyn amdano.

 

Cynigodd y Cynghorwyr Chris Bithell a Mike Peers bod yr argymhelliad yn cael ei newid i gynnwys cyfeiriad at argymhelliad IRPW. Cytunodd y Pwyllgor â hyn.

 

Cynigwyd yr argymhelliad canlynol gan y Cynghorydd Ted Palmer ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

  • Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod rhwydd hynt i Aelodau wrthod y cynnig o liniadur neu lwfans band eang. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo darparu gliniadur gan y cyngor i bob Aelod sy'n gofyn am un ar ôl i arolwg gael ei gynnal i benderfynu beth yw gofynion yr Aelodau;

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo cyflwyno lwfans band eang hyd at £30 y mis i bob Aelod o’r Cyngor sy’n gofyn amdano, yn unol ag argymhelliad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol; a

(c)        Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod rhwydd hynt i unrhyw Aelod wrthod y cynnig o liniadur neu lwfans Band Eang. 

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 17/02/2021

Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/10/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: