Manylion y penderfyniad

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd bod y Pwyllgor Safonau yn dueddol o dderbyn adroddiadau yn unol ag amserlen gylchol fel y gallai gwblhau gwaith oedd wedi’i drefnu dros gyfnod o amser, neu fedru cynnal ei wybodaeth a dysgu mwy.  Rhoddwyd y gwaith hwnnw yn y categorïau canlynol:

 

·         Hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r Cod

·         Adolygu codau, protocolau a phrosesau

·         Gwybodaeth am weithredu’r drefn foesegol

·         Penderfyniadau ynghylch gweithredu’r Pwyllgor ei hun yn effeithiol.

 

Gellid trefnu’r adroddiadau hynny fel bod y rhaglen waith yn rhoi sylw a phwysau dyledus i bob agwedd ar swyddogaethau’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn.  Roedd strwythuro’r rhaglen waith hefyd yn rhoi cyfle i ailystyried amlder y cyfarfodydd, a oedd yn anarferol o uchel yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

 

Roedd y tabl yn Atodiad 1 yn dangos yr eitemau y bu’r Pwyllgor yn eu hystyried ymhob un o’i gyfarfodydd ers Mehefin 2017.  Yn ogystal â’r eitemau hynny, bu ceisiadau am oddefebau a’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol dan ystyriaeth ymhob cyfarfod.  Roedd modd categoreiddio’r gwaith fel a ganlyn:

 

1.    Hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r cod er enghraifft, penderfynu ceisiadau am oddefebau, y cyfarfod blynyddol gyda Chynghorau Tref a Chymuned, y cyfarfodydd cyswllt â Chadeirydd ac Arweinydd y Cyngor, hyfforddiant Cynllunio i Gynghorwyr ac ati

2.    Adolygu codau, protocolau a phrosesau er enghraifft, yr adolygiad parhaus o godau/protocolau yn y Cyfansoddiad, ymweliadau â chyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned ac ati

3.    Gwybodaeth am weithredu’r drefn foesegol er enghraifft, trosolwg o’r cwynion moesegol, adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru/Panel Dyfarnu Cymru, coflyfr yr Ombwdsmon ac ati

4.    Penderfyniadau ynghylch gweithredu’r Pwyllgor ei hun yn effeithiol er enghraifft, rheoli trefn recriwtio’r Pwyllgor, rhannu gwybodaeth â Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru, cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac ati.

 

Ar sail y categorïau hynny roedd modd llunio Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a fyddai’n cynnwys cylch gorchwyl llawn y pwyllgor mewn chwech o brif gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn.   Ym mhob cyfarfod, gallai’r Pwyllgor ystyried dwy neu dair o eitemau o waith.   Yn ogystal â hynny gallai ystyried ceisiadau am oddefebau ac unrhyw adroddiadau oedd yn gysylltiedig â gweithredu’r Pwyllgor a dueddai yn eu hanfod o fod yn gynt i’w hysgrifennu a’u hystyried.   Gellid trefnu cyfarfodydd bob yn ddeufis, gan gadw lle gwag yn y misoedd yn y canol rhag ofn y derbynnid ceisiadau am oddefebau.  Roedd Atodiad 2 i’r adroddiad yn cynnwys Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol awgrymedig yn seiliedig ar y dull hwnnw i’r Pwyllgor ei hystyried.

 

Cafwyd trafodaeth ac roedd nifer o aelodau o blaid y dull a awgrymwyd.  Mewn ymateb i gwestiwn gan Julia Hughes, cadarnhaodd y Swyddog Monitro y gellid symud yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

                        Yn dilyn cwestiwn yngl?n â’r trefniadau ymarferol ar gyfer cwrdd â Chynghorau Tref a Chymuned ym mis Tachwedd, dywedodd y Swyddog Monitro y gellid naill ai cynnig sesiwn briffio cyn y cyfarfod, neu drefnu sesiwn hyfforddi ar ddefnyddio Webex.  Yna bu’r Aelodau’n trafod Zoom, cyfrwng y gwyddent fod nifer o Gynghorau Tref a Chymuned yn ei ddefnyddio.  Dywedodd y Swyddog Monitro y gellid defnyddio Zoom pe dewisid y cyfrwng hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn trefnu ei brif gyfarfodydd bob yn ail fis gan neilltuo dyddiadau eraill yn y misoedd yn y canol rhag ofn y byddai angen penderfynu ar geisiadau am oddefebau, a

 

(b)       Chymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol a oedd ynghlwm yn Atodiad 2.

Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew

Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2020 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: