Manylion y penderfyniad
Ethics and Governance During Lockdown
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad gan egluro y gweithredid cyfarfodydd awdurdodau lleol, tan eleni, yn unol â deddfwriaeth a fynnai bod mwyafrif o’r Aelodau’n bresennol yn y fan a’r lle. Nid oedd hynny’n ddiogel mwyach, ac roedd y cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull hefyd wedi’i gwneud yn amhosib cynnal cyfarfodydd o’r fath.
Ar 17 Mawrth 2020, gorfu i’r Cyngor ganslo holl gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau am weddill y mis, a thrachefn gydol mis Ebrill. Bu’n rhaid i Gynghorau Tref a Chymuned ganslo’u cyfarfodydd hwythau hefyd.
Dychwelodd cyfarfodydd Aelodau’n raddol o fis Mai ymlaen ar sail trefniadau llywodraethu newydd ac yn ddiweddarach, cyflwynwyd deddfwriaeth fel y gellid cynnal cyfarfodydd fod pobl yn bresennol yn y fan a’r lle. Cynhelid cyfarfodydd bellach trwy gyfrwng fideo gynadledda, ac adferwyd y calendr llawn o gyfarfodydd o fis Medi ymlaen.
Bu’n dal yn ofynnol i Gynghorwyr ddilyn y Cod Ymddygiad tra bu’r trefniadau llywodraethu dros dro ar waith, ac yn benodol i ddatgan cysylltiadau.
Darparwyd gwybodaeth yngl?n â’r trefniadau a sefydlwyd, megis penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol a’r drefn a ddilynwyd i benderfynu ceisiadau cynllunio brys.
Cynhaliwyd sgyrsiau ffôn wythnosol gydag Arweinwyr Grwpiau hefyd i drafod materion allweddol a’u galluogi i wneud sylwadau yn eu cylch.
Diolchodd Mr Robert Dewey i’r holl staff am eu gwaith wrth ddiwygio’r gweithdrefnau dros dro.
Soniodd y Cynghorydd Johnson am yr ymarfer a gynhaliwyd y flwyddyn flaenorol pan ymwelodd aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau â Chynghorau Tref a Chymuned ac adrodd yn ôl ar yr ymweliadau hynny. Dywedodd eu bod i gyd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol bryd hynny ac felly credai y byddai’n fuddiol cynnal yr ymarfer eto, dros y we. Dywedodd y Swyddog Monitro y gellid ystyried hynny ac ychwanegodd y gallai llacio’r rheolau ar gyfer caniatáu i aelodau’r cyhoedd ddod i gyfarfodydd y Cyngor fod yn gyfle i’r aelodau annibynnol fynd i gyfarfodydd Sir y Fflint pe dymunent.
PENDERFYNWYD:
Rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor y cynhaliwyd trefniadau moesegol gydol y cyfnod ymateb i’r argyfwng.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2020 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: