Manylion y penderfyniad

Support provided to Flintshire Care Homes during the COVID-19 Pandemic

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To support the approach of Social Services in their provision of support to the local care home sector.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) adroddiad ar y camau a gymerir gan Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r sector cartref gofal lleol.

 

Cyn yr achosion COVID-19, profwyd pwysau cenedlaethol ar gyllid a recriwtio yn y sector gofal yn Sir y Fflint.    Yn ystod y pandemig, roedd y Cyngor wedi cryfhau partneriaethau ymhellach gyda darparwyr drwy lefel digynsail o gefnogaeth i’w 27 o gartrefi gofal i gefnogi rhai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn.  Roedd y trefniadau cadarn a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig yn cynnwys Swyddog Monitro Contract i gysylltu gyda phob cartref gofal a’r system ‘pwynt rhannu’ i rannu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol.  Roedd cyfarfodydd telegynhadledd amlasiantaeth gyda darparwyr gofal i godi materion a rhannu canllawiau cenedlaethol newidiol wedi derbyn ymateb da a byddent yn parhau. 

 

Ar y dulliau profi, roedd holl weithwyr a phreswylwyr cartrefi gofal wedi eu profi rhwng Mai a Mehefin boed yn symptomataidd ai peidio.    Ers hynny, roedd gweithwyr yn holl leoliadau cartref gofal, gan gynnwys gofal ychwanegol wedi eu profi bob wythnos; byddent yn cael eu profi yn llai aml os byddai’r gyfradd ‘R’ yn gwella.  Roedd y drefn os byddai yna brawf positif mewn cartref gofal angen i’r sefydliad cyfan gael prawf a dechrau cyfnod ynysu.  Er bod 16 o gartrefi gofal yn Sir y Fflint mewn sefyllfa ‘coch’ (achosion positif) pan oedd y pandemig ar ei waethaf, roedd y nifer wedi gostwng nawr i dri.    Pan oedd y pandemig ar ei waethaf roedd timau o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi eu trefnu i ddarparu cefnogaeth ychwanegol mewn cartrefi gofal ac roedd trefniadau ‘ar alwad’ ar benwythnos wedi ymestyn i gynnwys uwch swyddogion. 

 

Cytunodd yr Uwch-Reolwr i rannu sleidiau cyflwyniad ar ddarpariaeth cyfarpar diogelu personol yn dilyn y cyfarfod.    Roedd cyflenwadau yn cael eu dosbarthu dwywaith yr wythnos i’r 27 sefydliad cartref gofal gan y gr?p o wirfoddolwyr a hyfforddwyd mewn safonau Gwasanaethau Cymdeithasol.    Roedd effeithiolrwydd y dull hwn drwy Wasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru wedi’i gydnabod fel arfer orau mewn adroddiad cenedlaethol a rhannwyd gyda gwasanaethau ar draws Cymru. 

 

Defnyddiwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi taliad 10% i gartrefi gofal o ganol mis Mawrth hyd at ddiwedd Mehefin, ar gyfer costau ychwanegol sy’n codi o’r pandemig fel cryfhau dulliau glanhau, goruchwylio gweithwyr ac ati.

 

Roedd y Cadeirydd yn croesawu parhad cyfarfodydd o bell wythnosol a dychwelyd canlyniadau profion yn amserol.  Mewn ymateb i gwestiwn ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr cartref gofal, dywedodd yr Uwch-Reolwr fod Gr?p Tasg a Gorffen yn adolygu canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddyraniad. 

 

Roedd y Cynghorydd White yn canmol safbwynt y Cyngor ar gau cartrefi gofal yn gynnar yn y Sir oedd wedi helpu i leihau lledaeniad yr haint.

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd aelodau wedi mynegi eu gwerthfawrogiad i’r timau o fewn y Cyngor a chartrefi gofal am eu hymdrechion i gadw preswylwyr yn ddiogel.    Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey i’w diolch gael ei drosglwyddo i’r Uwch Reolwyr Diogelu a Chomisiynu a Phlant a Gweithlu am helpu preswylwyr yn ei ward. 

 

Fel yr awgrymwyd gan y Cynghorydd Cunningham, cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor at wirfoddolwyr oedd wedi helpu i ddosbarthu cyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Smith, eglurodd yr Uwch-Reolwr bod cyfarpar diogelu personol wedi dechrau cael ei ddosbarthu i gartrefi ar 16 Mawrth.

 

Canmolodd y Cynghorydd Elis y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog am gynnal eu barn ar yr angen i brofi mewn ysbytai cyn rhyddhau i gartrefi gofal. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi safbwynt Sir y Fflint i helpu i leihau lledaeniad haint.  Talodd deyrnged i’w uwch reolwyr a thimau am gwrdd â holl ddisgwyliadau yn eu cefnogaeth i gartrefi gofal yn ystod y pandemig.

 

Fel Aelod o'r Cabinet, mynegodd y Cynghorydd Jones ei balchder yn y sector gofal cymdeithasol gan gynnwys rheolwyr cartref gofal a gweithwyr gofal cymdeithasol, ynghyd ag uwch dîm rheoli’r Cyngor.    Dywedodd fod y gefnogaeth a ddarparwyd i gartrefi gofal yn Sir y Fflint wedi bod yn dda iawn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dunbobbin gymeradwyo’r argymhelliad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Hinds.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod camau’r Cyngor i gefnogi’r Sector Cartref Gofal yn cael ei gymeradwyo.

Awdur yr adroddiad: Emma Cater

Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: