Manylion y penderfyniad

Annual Review of Fees and Charges

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To recommend the fees and charges for 2020/21 following the annual review.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn gosod allan y rhesymeg dros godi tâl a’r galwad am adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu hefyd y gwaith hyd yma ar yr argymhellion, o ran cynhyrchu incwm a ffioedd a thaliadau, a gafodd eu cadarnhau gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, yn cynnwys:

 

  • Rhoi codiad chwyddiant at y ffioedd a’r taliadau cymwys fel rhan o adolygiad 2020 gan ddefnyddio naill a’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cynnwys costau Tai perchen-feddiannydd (CPIH), cymharu cyfradd y farchnad neu’r gyfradd leol/y Cyngor (fel rhan o’r gwaith i sicrhau adennill costau llawn erbyn 2022);
  • Y gwaith a wnaed i asesu a oedd y ffioedd a’r taliadau yn llwyddo i adennill cost lawn pan y’u caniatawyd i wneud hynny a datblygu templed i alluogi meysydd gwasanaeth i gyfrifo hyn; ac
  • Adolygiad  a diweddariad o’r Polisi Cynhyrchu Incwm i sicrhau fframwaith ar gyfer cynhyrchu incwm, yn cynnwys strwythur cyson i godi tâl ac adennill costau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata fod gweithredu’r egwyddorion oedd ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, a’r rheiny y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, at adolygiad blynyddol ffioedd a thaliadau 2020, wedi sicrhau fod unrhyw godiadau yn cael eu rheoli’n briodol i atal newidiadau mawr mewn ffioedd a thaliadau o 1 Hydref 2020.

 

Roedd y gwaith i benderfynu a oedd adennill cost lawn yn cael ei gyflawni i bob gwasanaeth, lle caniateid iddynt wneud hynny, wedi digwydd. Datblygwyd templed adennill costau, a brofwyd fesul maes gwasanaeth, a’r canlyniad oedd templed adennill costau wedi’i gwblhau a’i brofi. Dosbarthwyd y templed i bob maes gwasanaeth fel rhan o adolygiad ffioedd a thaliadau 2020 iddynt ei ddefnyddio, er mwyn asesu a oedd y ffioedd a’r costau a osodwyd gan eu gwasanaeth wedi’u gosod ar lefel oedd yn galluogi adennill costau llawn.

 

Roedd rhai gwasanaethau yn gweithredu mewn marchnad fwy masnachol ac mae’n bosibl eu bod wedi dewis gosod ffioedd a thaliadau yn unol â chyfradd y farchnad. Roedd gwneud hynny’n atal effaith niweidiol ar y galw am wasanaeth a’r incwm cysylltiedig, ac roedd yn unol ag amcanion ac egwyddorion Polisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor.

 

Roedd y Polisi Cynhyrchu Incwm a ddiweddarwyd yn rhoi mwy o fanylion am y broses adolygu’r ffioedd a thaliadau yn flynyddol ac yn cynnwys y meini prawf, fel y’u cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, ar gyfer adolygu’r ffioedd a’r taliadau presennol, a chyflwyno rhai newydd.

 

Croesawyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Banks, yn enwedig y manylion ar gonsesiynau yn yr atodiad.  

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod cynhyrchu incwm ychwanegol, yn cynnwys incwm o ffioedd a thaliadau, yn rhan o’r strategaeth o opsiynau i gwrdd â her y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:

 

“Rwyf yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion.

 

Pe bai pwyllgor TaChAC wedi bod, byddwn wedi gofyn:

  1. O dan Casgliadau Gwastraff Gardd, mae’r ffioedd i ddod i rym ar 1 Hydref yn cael eu dangos fel I’w gadarnhau ac mae’n dweud yn y golofn olaf, Penderfyniad ar daliadau i ddod yn dilyn atal y gwasanaeth yn rhannol yn 2020.

    Mae hyn yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar dudalen gwe Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd Sir y Fflint, lle mae’n datgan,

    “Bydd preswylwyr oedd wedi tanysgrifio ar gyfer gwasanaeth 2020 cyn iddo gael ei atal yn cael cynnig gostyngiad o £8 oddi ar eu tâl tanysgrifio ar gyfer 2021 yn gydnabyddiaeth bod y gwasanaeth wedi cael ei atal rhwng mis Mawrth a Mehefin.”

 

  1. Mecanwaith sut mae ffioedd yn cael eu dyfynnu gan Swyddogion pan nad yw’r union wasanaeth sydd ei angen wedi’i restru?”

 

Mewn ymateb i gwestiwn un, dywedodd y Prif Weithredwr fod y penderfyniad i roi ad-daliad i gwsmeriaid yn disodli’r cwestiwn hwnnw. Byddai’n ceisio eglurder gyda’r Cynghorydd Carver ar ei ail gwestiwn ac yn rhoi ateb iddo.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r rhestr ffioedd a thaliadau a gofnodwyd yn Atodiad A i ddod i rym ar 1 Hydref 2020;

 

(b)       Nodi’r gwaith a wnaed i weithredu’r argymhellion a’r meini prawf a gadarnhawyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019 ar gyfer yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau, gan sicrhau eu bod yn cael eu gosod i alluogi adennill costau llawn neu eu bod yn cymharu â chyfradd y farchnad, os oes modd; a

 

(c)        Chymeradwyo’r Polisi Cynhyrchu Incwm a ddiweddarwyd.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 10/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/07/2020 - Cabinet

Accompanying Documents: