Manylion y penderfyniad
Business Rates – Write Offs
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To approve a recommendation to write off a
Business Rate debt in excess of £25,000 in line with Finance
Procedure Rules.
Penderfyniadau:
Eglurodd y Prif Weithredwr mai dyma’r cyfarfod Aelod Cabinet Unigol Sir y Fflint cyntaf dros y we, a gwahoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i amlinellu’r weithdrefn.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fanylion o’r weithdrefn a’r trefniadau ar gyfer sicrhau ymgynghoriad a thryloywder.Y rheswm dros gael penderfyniad Aelod Cabinet Unigol oedd oherwydd bod sefyllfa frys wedi codi.
Mewn amgylchiadau arferol, mae drwgddyledion unigol sy’n fwy na £25,000 angen cymeradwyaeth Cabinet o argymhellion swyddog i ddileu dyledion.Roedd hyn yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.
Roedd dyled Ardreth Busnes o £80,128 ar gyfer Monsoon Accessorize Ltd, am eu safle yn Uned 14A Parc Siopa Brychdyn, Brychdyn, wedi’i ystyried yn anadferadwy gan fod y cwmni wedi gwneud Trefniant Gwirfoddol ar ran Cwmni (CVA) gyda chredydwyr yng Ngorffennaf 2019.
Eglurwyd yn yr adroddiad bod cwmnïau’n bwriadu defnyddio CVA fel ffordd o ailstrwythuro eu busnes, i osgoi diddymiad a dod i ben â masnachu.Roedd CVA yn gytundeb rhwymol gyfreithiol gyda chredydwyr, i ganiatáu bod cyfran o ddyledion y cwmni’n cael ei thalu yn ôl dros amser.I basio’r CVA, rhaid i 75% o gredydwyr, yn ôl gwerth ariannol, gefnogi’r cynnig.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi ymgynghori’n benodol â Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y mater.Roedd y Cynghorydd Clive Carver, fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, wedi ymateb fel a ganlyn:
‘Ers i Monsoon Accessorize Ltd wneud CVA gyda’i gredydwyr ac yn unol â’r cytundeb hwnnw, mae Cyngor Sir y Fflint wedi diogelu ad-daliad o £37,696 o’r £117,824 sy’n ddyledus.Nid yw’r Cyngor, yn ôl y gyfraith, yn gallu cymryd camau gorfodi o ran dyledion, i adennill y ddyled sy’n weddill o £80,128, yr unig ddewis felly yw dileu’r ddyled hon.
Hyd y gwn, oherwydd y CVA, byddai unrhyw ymgais gan y Cyngor i adennill mwy odaliadau yn ofer ac ar draul y Cyngor.
Nodaf nad yw’r ddyled hon sy’n weddill yn effeithio’n uniongyrchol ar y Cyngor, oherwydd bydd ond yn gallu gweithredu fel asiant i Lywodraeth Cymru ei gasglu, fodd bynnag, bydd hyn yn gadael Cronfa Gasglu Genedlaethol Llywodraeth Cymru yn fyr o’r swm yma.
Felly, o dan yr amgylchiadau, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r cynnig i ddileu’r £80,128 sy’n weddill.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw, ers drafftio’r adroddiad, o ganlyniad i gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar gynlluniau rhyddhad ardrethi brys ar gyfer manwerthwyr, a’r sectorau hamdden a lletygarwch, mae Monsoon Accessorize bellach yn gymwys am Ryddhad Ardrethi 100% yn ystod 2020/21. Roedd y rhyddhad hwn yn cyfateb i £119,840. Byddai’r gost o ddyfarnu rhyddhad ardrethi ar gyfer 2020/21 yn cael ei bodloni’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd dileu’r ddyled yn cyflwyno unrhyw risg ariannol i’r Cyngor.
Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r swyddogion am eu cyfraniad, a dywedodd y dylid cymeradwyo i ddileu’r £80,128 ar gyfer y ddyled Ardreth Busnes yn ymwneud â Monsoon Accessorize Ltd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo i ddileu’r £80,128 ar gyfer y ddyled Ardreth Busnes yn ymwneud â Monsoon Accessorize Ltd.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 03/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 21/04/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/04/2020 - Penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol
Dogfennau Atodol: