Manylion y penderfyniad

Member Development & Engagement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad cynnydd diweddaraf am ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau sydd wedi cael eu cynnal ers y diweddariad diwethaf ym mis Hydref.  Fel diweddariad ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, cafodd Aelodau eu gwahodd i weithdy Newid Hinsawdd ar fore 25 Chwefror neu sesiwn fin nos ar 5 Mawrth 2020. Byddai rhagor o weithdai’n cael eu trefnu ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf, Cynllun y Cyngor, Trais Domestig a Gwerth Cymdeithasol. Cafodd aelodau eu hannog i gyflwyno argymhellion ar gyfer hyfforddiant a datblygu ar destunau eraill.

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Healey weithdy ar rwymedigaethau Adran 106 a Lleoliadau Diwydiannol Strategol (SILS) i roi eglurder i Aelodau ar gyfraniadau datblygwyr. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell. Siaradodd y Cynghorwyr Hessom a Peers o blaid y gweithdai, ac fe awgrymodd y Cynghorydd Peers fod mwy o ffocws ar waith cynllunio cyn ymgeisio megis ymgynghoriad gyda’r adran Priffyrdd.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Peers am weithdy diweddar oedd yn ymdrin â Llinellau Sirol, ond mynegodd bryderon am bresenoldeb isel o ystyried pwysigrwydd y pwnc. Gofynnodd i’r Cynghorydd David Healey ystyried rhannu sleidiau’r cyflwyniad gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a’i ddosbarthu i Benaethiaid Ysgolion Uwchradd.

 

Roedd y Cynghorydd Healey hefyd yn bresennol yn y gweithdy, roedd yn croesawu’r cyfle i godi ymwybyddiaeth a gofynnodd i’r eitem gael ei hychwanegu at Raglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Johnson recordio’r sesiynau hyfforddi er mwyn i’r Aelodau oedd methu bod yn bresennol allu elwa. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r Gweithdy Llinellau Sirol yn cael ei ailadrodd ar sawl achlysur ac y byddai pob Aelod yn cael gwahoddiad. Mewn cysylltiad ag awgrym y Cynghorydd Smith ar gyfer sesiwn min nos, dywedodd y byddai’n holi Heddlu Gogledd Cymru pwy oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r gweithdy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus, fod Llinellau Sirol yn bryder mawr ymhob cymuned, ac roedd disgyblion yn cael eu gwahardd yn barhaol o ysgolion mewn perygl.  Gofynnodd fod yr adroddiad a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus diweddar yn cael ei wneud yn ddi-enw a’i rannu gydag Aelodau er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod hyn yn effeithio ar bawb.

 

Roedd y Cynghorydd Jones hefyd yn bresennol, ac fe soniodd am nifer o sesiynau hyfforddi Llinellau Sirol oedd wedi bod yn boblogaidd iawn a dywedodd y gellir gwneud cais am ragor trwy Fiona Mocko.  Dywedodd fod dolen am y sesiwn hyfforddi ar gael gan Fiona i’w rannu gydag Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod Llinellau Sirol/cam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn broblem oedd yn lledaenu o ddinasoedd i drefi a phentrefi.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Heesom ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd y digwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf;

 

 (b)      Bod yr hyfforddiant awgrymedig ar gyfraniadau Adran 106 a Llinellau Sirol yn cael eu gweithredu; a

 

 (c)      Os oes gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol, fe’u gwahoddir i gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 06/04/2020

Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/01/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: