Manylion y penderfyniad

Liaison on Ethical Issues with the Council

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi adborth o'r cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau ym mis Tachwedd 2019.  Dywedodd fod pob parti yn teimlo bod y cyfarfod wedi bod yn gynhyrchiol a chytunwyd y dylai'r Aelodau Annibynnol ymweld â chyfarfodydd llawn y Cyngor a'r Pwyllgor i arsylwi yn yr un modd ag yr oeddent wedi mynychu cyfarfodydd y Cynghorau Tref a Chymuned; ac y dylai cyfarfodydd o'r fath, yn y dyfodol, gynnwys Arweinwyr Gr?p.

 

Cytunwyd yn y cyfarfod y byddai Aelodau Annibynnol yn ymweld â chyfarfodydd y Cyngor Sir yn yr un modd ag yr oeddent wedi ymweld â chynghorau tref a chymuned.  Esboniodd y Swyddog Monitro fod gan y Cyngor chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Cynllunio a'r Pwyllgor Trwyddedu.  Roedd hefyd yn cyfarfod o bryd i'w gilydd fel Cyngor llawn lle'r oedd pob aelod yn bresennol a bod nifer o bwyllgorau cyflogaeth sy'n cyfarfod pan fo angen.  Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod yn bwysig, fel gydag ymweliadau gan Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref a Chymuned, fod yr ymarfer yn cael ei gynnal yn y ffordd gywir ac y dylid hysbysu Cadeirydd pob cyfarfod y byddai Aelod Annibynnol yn ymweld â'i gyfarfod.  Ni fyddai Aelodau Annibynnol yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd ond byddent yn arsylwi ac yn rhoi adborth i'r Pwyllgor Safonau. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Johnson bryder ynghylch gwrthdaro buddiannau pe gofynnid i Aelodau ystyried adborth ar ôl arsylwi cyfarfodydd y Cyngor yr oeddent wedi cymryd rhan ynddynt.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai Aelodau Annibynnol sy'n mynychu cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgorau yn gallu rhoi adborth ar eu profiad a fyddai'n adlewyrchu profiad aelod o'r cyhoedd a oedd yn bresennol.  Esboniodd y Swyddog Monitro mai diben yr ymweliadau gan Aelodau Annibynnol oedd arsylwi, er enghraifft, a oedd Cynghorwyr yn dilyn y Cod Ymddygiad, Safonau Sir y Fflint, Protocol Aelodau/Swyddogion, ac yn y Pwyllgor Cynllunio y Protocol Cynllunio.  Dywedodd na fyddai unigolion sy'n mynychu'r cyfarfodydd yn cael eu henwi yn yr adborth.

 

Awgrymodd Ken Molyneux, fel gydag ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned, y dylid darparu rhestr o'r gofynion i gynorthwyo Aelodau Annibynnol i ymgymryd â'r dasg hon. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai gofyn i Arweinydd y Tîm Gwasanaethau Democrataidd (Pwyllgorau) drefnu rota o ymweliadau ag Aelodau Annibynnol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson y dylai fod yn ofynnol i ddau Aelod Annibynnol ymweld â chyfarfodydd y Cyngor Sir.  Eiliwyd hyn gan Ken Molyneux ac fe'i cytunwyd gan y Pwyllgor.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai cyfarfodydd cyswllt moesegol yn y dyfodol gynnwys Arweinwyr Grwpiau.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Patrick Heesom a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod Aelodau Annibynnol yn arsylwi cyfarfodydd llawn y Cyngor a'r Pwyllgorau;

 

(b)          Bod Arweinydd y Tîm Gwasanaethau Democrataidd (Pwyllgorau) yn trefnu rota o ymweliadau ag Aelodau Annibynnol; ac y

 

(c)          Dylai cyfarfodydd cyswllt moesegol yn y dyfodol gynnwys Arweinwyr Gr?p.

 

Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew

Dyddiad cyhoeddi: 12/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/02/2020 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: