Manylion y penderfyniad

Pension administration /communications update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

                      Darparodd Mrs Williams wybodaeth am eitemau yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu o’r chwarter diwethaf.  Mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar Gynllun Busnes 2019/20.  Nododd Mrs Williams efallai y bydd terfynau amser yn llithro wrth weithredu newidiadau buddion goroeswyr oherwydd bod angen i’r tîm gweinyddol fynd yn ôl drwy’r holl aelodau yn y Gronfa i benderfynu a oedd gan yr aelodau unrhyw berthynas ac felly unrhyw fuddion goroesi yn y Gronfa.

  

                      Roedd ymarfer cysoni GMP yn cael ei ddarparu’n allanol gan Equiniti ac mae’n awr yn y cam olaf.  Roedd yr ymarfer yn cynnwys cadarnhau bod cofnodion GMP HMRC yr un fath â’r Gronfa.  Bu heriau yn yr ymarfer a bydd yn cynnwys yr angen i ad-dalu tandaliadau ac ystyried adennill gordaliadau ar gyfer rhai pensiynwyr ac aelodau dibynnol, ynghyd â chynyddu neu ostwng pensiynau yn y dyfodol. Oherwydd y terfynau amser tynn, gofynnir i’r Pwyllgor ganiatau gwneud y penderfyniadau hyn drwy ddirprwyaethau brys, ac yna byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod ym mis Chwefror.

                      Holodd Mr Hibbert am y cynllun o ran ad-ennill unrhyw ordaliadau y mae'r Gronfa wedi'i gwneud i bensiynwyr o ganlyniad i GMP anghywir.  Awgrymodd Mrs McWilliam ei bod yn hynod debygol mai’r penderfyniad fydd na fydd y Gronfa yn ceisio ad-daliad ar gyfer unrhyw ordaliadau.  Mae’r ymagwedd hon wedi’i hargymell gan LGA yn dilyn awgrym gan y Llywodraeth.   Cadarnhawyd hefyd na fydd y DWP yn ad-dalu unrhyw ordaliadau oherwydd data anghywir.

                      Nododd Mrs Williams bod y Gronfa yn gobeithio gweithredu popeth erbyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror fel nad yw'r Gronfa yn wynebu cyfnod cynnydd pensiwn arall h.y.  Ebrill 2020.

                      Ar dudalen 170, gofynnodd y Cynghorydd Bateman am y wybodaeth ddiweddaraf o ran y broses recriwtio.  Nododd Mrs Williams y bu nifer o gyfweliadau mewnol ac fe gafwyd dau ymgeisydd llwyddiannus.  Roedd y ddau wedi darparu cyfweliad cryf felly byddai’r swydd yn cael ei rhannu rhwng y ddau ymgeisydd.  Mae gan un swydd ran-amser yn y tîm ymddeoliad, a bydd un yn gweithio gyda’r tîm agregu yn rhan-amser.  Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth y Gronfa yn nodi bod angen mwy o rolau arweiniol, felly roedd Mrs Williams yn credu y byddai hyn yn gweithio'n dda iawn.

                      Ychwanegodd Mrs Williams bod seiberdroseddu'n risg newydd, bydd y Gronfa yn ceisio rhagor o wybodaeth gan Sir y Fflint am hyn.

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor wedi ystyried y diweddariad a gwneud sylwadau

(b)  Nododd y Pwyllgor y gofyniad i ymestyn y terfynau amser mewn perthynas â gweithredu buddion goroeswyr (A6) fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.01.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r defnydd o weithdrefn dirprwyaeth frys i symud ymlaen ag eitemau A3 (Polisi tan/gordalu) ac A8 (cysoni GMP).

 

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2020

Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/11/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: