Manylion y penderfyniad

Pooling Investments in Wales (including presentations from Link Fund Solutions and Russell Investments)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Nododd Mr Latham mai’r ymgynghorydd goruchwylio presennol yw Hymans Robertson a benodwyd ar gyfer y cyfnod sefydlu a phontio cychwynnol.   Ond, bydd y gronfa ar y cyd yn penodi ymgynghorydd ar gyfer monitro parhaus a datblygiad pellach WPP.  Bydd canlyniadau caffael yn cael eu cytuno yng nghyfarfod nesaf JGC ar 9 Rhagfyr 2019. Soniwyd hefyd na all Mr Latham na Mrs Fielder fynychu cyfarfod nesaf y JGC oherwydd amseru'r cyfarfod.

 

            Darparodd Mr Gough drosolwg bras o’i rôl sef rheolwr perthynas yn Link Fund Solutions ac mae’n gyfrifol am ddiogelwch a goruchwylio’r Gronfa.  Mynegodd Mr Gough y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r WPP;

-       Mae Cronfeydd Cyfran 1 yn cynnwys dwy gronfa ecwiti a ddechreuodd ar ddiwedd 2017.

-       Cymeradwyodd FCA y Cronfeydd ym mis Gorffennaf 2018.

-       Roedd diwrnod cyntaf rheolwyr WPP ym mis Medi 2018.

-       Cafwyd lansiad cyntaf y Gronfa ym mis Ionawr 2019.

-       Penodwyd BlackRock i bontio'r cronfeydd incwm sefydlog.

-       Mae Karl Midl wedi gweithio i Link Fund Solutions ers dros 20 mlynedd ac wedi’i benodi fel Rheolwr Gyfarwyddwr Link Fund Solutions ers canol 2019.

-       Mae cronfa ecwiti twf byd-eang yn fwy cyfarwydd i’r WPP ac mae 3 rheolwr gwaelodol (roedd 2 o’r rhain yn reolwyr presennol).

-       Y gronfa ecwiti cyfleoedd byd-eang yw Cronfa Syniadau Gorau Russell Investments gyda 7 o reolwyr gwaelodol.

 

            Holodd Mr Hibbert a yw WPP wedi cytuno i rannu costau a sut y cânt eu rhannu.  Nododd Mr Gough o ymagwedd pwynt pontio, bydd pob awdurdod yn gyfrifol am ail-lunio eu portffolio.  Felly, mae'r gost yn gymesur â maint pob Cronfa.  Nododd Mrs Fielder fod ganddi fanylion yr holl gostau hyn ac y gall nodi cyfanswm y cost pontio.  Crybwyllodd mai’r unig gost sy’n cael ei rhannu’n gyfartal ar draws yr wyth Cronfa yw cost llywodraethu.

 

            Ail-bwysleisiodd Mr Mandich tri amcan cydgyfrannu yr oedd yr WPP yn eu gweithredu:

  1. Creu graddfa.
  2. Galluogi cyd-fuddsoddi.
  3. I roi gwell strwythur llywodraethu yn ei le.

 

            Pwysleisiodd bod y Gronfa yn gronfa lai mewn cyd-gronfa fwy ond yn y pendraw mae hyn wedi cynorthwyo'r Gronfa i arbed arian, drwy gael cost is drwy faint mwy.

 

            Roedd yr adolygiad o berfformiad ar sleid 8 y cyflwyniad yn dangos mai elw net dros ben hyd yma yw 0.92%, sy'n cynrychioli o ganol mis Chwefror 2019 hyd ddiwedd Hydref, ac mae hyn yn ddechrau gwych.

 

            Cadarnhaodd Mr Gough bod Cyfran 1 a 2 wedi'u cwblhau.  Cyfran 3 yw cronfa incwm sefydlog gyda Hymans Robertson wedi’u penodi fel ymgynghorwyr pontio ac maent yn dymuno lansio hyn ym mis Ionawr 2020.

 

            Ar sleid 16, nododd Mr Mandich eu bod y cyflogi 5 i 6 o reolwyr ar gyfer Is-gronfa'r Farchnad sy'n dod i'r amlwg i gyflawni patrwm llyfn o elw.

 

            Gofynnodd Mrs McWilliam i Mr Gough egluro risgiau'r digwyddiad diweddar yn ymwneud â Woodford Investment Management i'r Pwyllgor.  Nododd Mr Gough bod cyfyngiadau o ran yr hyn y gall ei ddweud ond mae hyn yn parhau.  Mae Neil Woodford yn reolwr buddsoddi sy’n ymwneud â nifer o Gronfeydd, un ohonynt yn gronfa ecwiti sydd wedi'i rhewi ac yn awr yn cael ei chau gan Link Fund Solutions.  Mae cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau ar gyfer hyn, ond yr effaith ar WPP ac felly’r Gronfa yw efallai na fydd Karl Midl a benodwyd yn ddiweddar ar gael cymaint ag yr oedd.  Awgrymodd Mrs McWilliam bod Gweithgor y Swyddogion yn ymchwilio’r mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.

(b)  Bod y Pwyllgor wedi derbyn cyflwyniad gan Weithredwr WPP.

(c)  Bod y Pwyllgor wedi trafod a chytuno ar unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar gyfer y WPP.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2020

Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/11/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: