Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy: Council Fund Revenue Budget 2020/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update on the forecast for the budget requirements for the Council Fund Revenue Budget for 2020/21.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan ddarparu’r rhagolwg diweddaraf ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 a’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn ymateb i’r bwlch yn y gyllideb. Byddai pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’n derbyn adroddiad ar eu portffolios priodol er mwyn adolygu’r pwysau ar gostau a’r arbedion fel y rhannwyd yn flaenorol mewn gweithdai. Ar y cam hwn, ni chafwyd unrhyw geisiadau gan Aelodau i archwilio unrhyw feysydd arbedion newydd. Nid oedd digon o amser i wneud hynny ar gyfer proses gosod cyllideb 2020/21 cyn hwyred â hyn.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol grynodeb o’r prif newidiadau i’r pwysau presennol ynghyd â phwysau newydd oedd wedi codi yn ystod yr haf. Roedd y rhain wedi cynyddu’r bwlch yn y gyllideb i £16.2m ar gyfer 2020/21 o flaen cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC). Crynhodd yr adroddiad hefyd dros £8m o arbedion ac incwm a ddynodwyd yn y strategaeth pedair rhan i gyfrannu at y bwlch, gan gynnwys tybiaeth weithredol o gynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor oedd islaw’r lefel oedd yn ddisgwyliedig gan LlC. Roedd hyn hefyd yn cynnwys £2m rhagamcanol o’r adolygiad actiwaraidd bob tair blynedd o’r Gronfa Bensiynau, oedd yn agos at gael ei chwblhau, yn dilyn perfformiad cryf gan Gronfa Bensiynau Clwyd dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Roedd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru wrth aros am godiad sylweddol yn ei Grant Cefnogi Refeniw blynyddol i fodloni gweddill y bwlch a ragwelir a chyflawni cyllideb gyfreithiol gytbwys. Y tu allan i hyn, yr unig atebion i weddill y bwlch yn y gyllideb oedd adolygiad pellach o gyfraniadau cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd, rhannu’r pwysau cost gydag ysgolion a chynnydd i’r Dreth Gyngor sydd uwchlaw’r dybiaeth weithredol.

 

O ran y sefyllfa genedlaethol, byddai’r dyraniad i Lywodraeth Cymru o adolygiad gwario’r DU yn aros. Oherwydd yr Etholiad Cyffredinol, gohiriodd Llywodraeth Cymru gyhoeddiad ei chyllideb a’r Setliadau Llywodraeth Leol Dros Dro tan 16 Rhagfyr, gyda Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn ddisgwyliedig ar 25 Chwefror a dadl cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar 4 Mawrth. Cyn y dyddiadau allweddol hyn, y gobaith oedd y gallai unrhyw ddeallusrwydd sydd ar gael yn cael ei rannu yn y Cyngor Sir ar 10 Rhagfyr.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad, ac yn benodol, canlyniad cadarnhaol adolygiad actiwaraidd Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb oedd ynghlwm â’r gweithgor trawsbleidiol a chymeradwyodd y sylwadau am barhau gyda gwaith gyda CLlLC ac Aelodau’r Cynulliad er mwyn chwilio am ganlyniad cadarnhaol ar y Setliad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cynghorwyd y Cynghorydd Heesom fod y pwysau gofal cymdeithasol a adroddwyd ar gyfer 2020/21 yn ymgorffori’r cynnydd sylweddol mewn Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir. O ran Newid Sefydliadol, anelodd y rhaglenni gwaith at gyflawni arbedion dros y tymor hwy, megis y Strategaeth Ddigidol a phontio Theatr Clwyd, ac felly ni fyddai’n effeithio ar y sefyllfa ar gyfer 2020/21.

 

Yn dilyn pryderon y Cynghorydd Heesom am wahanu gwasanaethau, anghytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd fod strwythur y portffolio’n gweithio’n effeithiol ac nad oedd lleoliadau timau’r gweithlu’n effeithio’n andwyol arno.

 

Mewn ymateb i ymholiad y Cadeirydd, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i roi eglurhad ar y gost drwyddedu flynyddol ar gyfer Citrix oedd yn rhan allweddol o drefniadau diogelwch TGCh a gweithio ystwyth.

 

Darparodd y Prif Weithredwr eglurhad i’r Cynghorydd Bateman ar y swydd Gorfodaeth ychwanegol i gynyddu capasiti yn dilyn newidiadau deddfwriaethol ar gasglu’r Dreth Gyngor. Yn dilyn ymholiad y Cynghorydd Johnson, cadarnhaodd fod diffyg grant penodol y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i gynnwys yn y Strategeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Cunningham ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’r cofnodion nodi ei fod yn atal ei bleidlais a’i fod yn nodi’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed.

Awdur yr adroddiad: Sara Dulson

Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: