Manylion y penderfyniad
Medium Term Financial Strategy: Council Fund Revenue Budget 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To advise members of the latest budget
position for 2020/21 and any specific proposals for the
Portfolio
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer y gyllideb a phwysau costau ar gyfer Addysg ac Ieuenctid ar ôl cwblhau'r gwaith sydd ar y gweill ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a phenderfyniad cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC). Roedd LlC wedi cadarnhau’n ddiweddar y byddent yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Cymru ar 16 Rhagfyr gyda Setliad Dros Dro yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod. Byddai cwblhau’r broses o osod y gyllideb yn gyfrifoldeb ar gyfer y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Ionawr – Mawrth.
Amlinellodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Arbedion Effeithlonrwydd arfaethedig Cynllun Busnes y Portffolio, fel y nodwyd yn yr adroddiad ac egluro bod cyllidebau wedi'u gostwng cymaint ag sy'n ddiogel er mwyn diogelu cyllidebau dirprwyedig ysgolion.
Cyflwynodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon o ran unrhyw gynnydd yn y tybiaethau gweithiol ar Dreth y Cyngor ac roedd yn teimlo y byddai'n annerbyniol cynyddu Treth y Cyngor yn uwch na 5%. Awgrymodd bod dewisiadau effeithlonrwydd pellach yn cael eu harchwilio a bod Aelodau’n derbyn cynllun gwariant portffolio er mwyn dadansoddi a deall cyllidebau portffolio yn well. Gofynnodd hefyd am ragor o wybodaeth ar y pwysau sy’n cael ei achosi gan ddiffygion ariannol ym malansau ysgolion.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol na fyddai unrhyw arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn cael eu ceisio o bortffolios ac na fu ceisiadau newydd gan Aelodau i ystyried meysydd newydd o arbedion effeithlonrwydd. Eglurodd Rheolwr Cyllid Addysg mai un o'r pwysau mwyaf sylweddol ar gyllideb ysgol oedd cyflwyno Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan fod hyn yn ei gwneud yn ofynnol fod gan ysgolion adnoddau ychwanegol i gefnogi disgyblion gydag ADY. Amlinellodd hefyd y pwysau ar gyllidebau ysgol yn dilyn Dyfarniad Cyflog Athrawon na fyddai’n cael ei ariannu’n llawn.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Mr.David Hytch, eglurodd y Prif Swyddog, nad oedd yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd yn y Gwasanaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn golygu colli swydd swyddog ac y byddai'r cyllid ychwanegol a nodwyd ar gyfer y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn gymorth i atgyfnerthu'r strwythur rheoli drwy benodi i swydd Uwch Reolwr.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones am adolygiad actiwaraidd o Gronfa Bensiynau Clwyd, eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod yr adolygiad bron â’i gwblhau. Rhagwelir y byddai gostyngiad yn y swm a delir gan y Cyngor o oddeutu £2m.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at yr heriau y mae ysgolion uwchradd sydd â diffyg yn eu cyllidebau yn eu hwynebu a gofyn a oedd ysgolion yn cael eu herio a'u cefnogi i archwilio a oes modd canfod rhagor o arbedion effeithlonrwydd. Nododd hefyd y rhaglen 'Mockingbird’ gan egluro ei fod yn enghraifft dda o atgyfnerthu darpariaeth mewn modd sy'n effeithlon yn ariannol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod ysgolion yn cael eu herio a'u cefnogi a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal ar gyfer ysgolion sy'n profi anawsterau ariannol. Amlinellodd y Cytundeb Diffyg Trwyddedig ar gyfer ysgolion gyda diffyg yn y gyllideb ac adrodd bod adolygiad o’r Cytundeb wedi’i gynnal yn ddiweddar gyda fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i'r ysgolion yn ddiweddar. Cytunwyd y byddai copi o’r Cytundeb diwygiedig yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at y pwysau ariannol o waharddiadau ADY a gofyn pwy oedd yn gyfrifol am gost addysg plentyn sydd wedi'u gwahardd. Holodd hefyd os oedd y rhesymau dros y cynnydd mewn gwaharddiadau ar gyfer plant gydag ADY yn cael eu deall. Amlinellodd y Rheolwr Cyllid y fformiwla gyllid sy’n ymwneud â disgyblion sydd wedi’u gwahardd, gan egluro os yw plentyn yn mynychu ysgol wahanol ar ôl eu gwahardd, byddai'r cyllid yn dilyn y plentyn hwnnw.
Eglurodd y Prif Swyddog bod y rhesymau dros y cynnydd mewn gwaharddiadau ar gyfer plant gydag ADY yn anodd eu pennu. Efallai bod plant wedi gweld cam-drin domestig neu drais, yn gorfod ymdopi â rhieni yn gwahanu ac ysgaru, mae’r rhain i gyd yn cael eu cydnabod fel rhywbeth sy’n cael effaith ar bobl ifanc. Bu cynnydd oherwydd y defnydd o gyffuriau gyda'r ysgolion yn cydymffurfio â'r Polisi Camddefnyddio Sylweddau a chynnydd mewn ymddygiad treisgar a phroblemau llafar a chorfforol mewn ysgolion, ynghyd â chario arfau. Roedd y rhain yn faterion cymhleth gyda Phenaethiaid eisiau diogelu disgyblion eraill a staff, gyda rhieni yn poeni am ddiogelwch, ond hefyd yn cydnabod bod yr unigolyn ifanc angen cefnogaeth hefyd. Nid oedd yn hawdd cefnogi ysgolion ac i’r unigolyn ifanc osgoi gwaharddiad ond weithiau roedd yn rhaid ystyried yr effaith ehangach ar yr ysgol.
Diolchodd y Cynghorydd Dave
Mackie i’r swyddogion am y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Heesom gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynigion effeithlonrwydd Addysg ac Ieuenctid ar gyfer 2020/21; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau costau Addysg ac Ieuenctid sydd wedi’u hargymell i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: