Manylion y penderfyniad
Welsh Language Annual Monitoring Report 2018/19
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive and review the Welsh Language
Annual Monitoring Report.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2018/19 i’w gymeradwyo. Roedd yn cynnwys trosolwg o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg a meysydd gwella a nodwyd. Roedd cyhoeddi adroddiad blynyddol yn ddyletswydd statudol ac yn rhan o raglen waith ehangach i sicrhau newid sylweddol.
Tra bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn Addysg, Gwasanaeth Cymdeithasol a Theatr Clwyd o ran diwylliant Cymreig a defnyddio’r Gymraeg, nodwyd meysydd gwella pellach yn yr adroddiad yn cynnwys deall lefelau sgiliau staff a meithrin hyder i sgwrsio yn Gymraeg.
Wrth ddiolch i’r swyddog am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mullin fod meysydd o ddiffyg cydymffurfio’n deillio’n bellaf o gamgymeriadau gweinyddol yn gysylltiedig â galwadau ffôn ac arwyddion, a bod nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg yn cael sylw drwy’r Sir. Cydnabu’r meysydd gwella angenrheidiol, gan nodi’r cynnydd a wnaed eisoes.
Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Peers, eglurodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y drefn o ddelio â galwadau ffôn yn Gymraeg yn cynnwys trefniadau yn y Ganolfan Gyswllt. Tra bod y Cynghorydd Peers yn gefnogol i ddwyieithrwydd, dywedodd y dylid cael cysondeb, er enghraifft, diffyg arwyddion Saesneg yn swyddfeydd T? Dewi Sant yn Ewlo. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n cyfleu’r sylw a dywedodd fod yr adeilad wedi cael enw Cymraeg yn sgil ymgynghori â’r gweithlu. Ychwanegodd mai’r gofyniad oedd sicrhau nad oedd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol yn hytrach na bod yn gwbl ddwyieithog.
Siaradodd y Cynghorydd Jones am y cyfleoedd cynyddol i ddysgwyr Cymraeg a mynegodd ei siom yn y gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithwyr sy’n mynychu hyfforddiant sgiliau Cymraeg o 137 yn 2017/18 i lawr i 64 yn 2018/19. Roedd y Prif Weithredwr yn rhannu ei bryderon a chyfeiriodd at gynlluniau i ystyried mathau gwahanol o ddysgu i hybu niferoedd ar lefel mynediad.
Talwyd teyrnged gan y Cynghorydd Shotton i’r gwaith a wnaed mewn ysgolion, yn arbennig y chwe ysgol cyfrwng Saesneg oedd wedi ennill gwobr Efydd y ‘Campws Cymraeg’.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Jones ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad blynyddol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd o ran bodloni gofynion statudol yr Hysbysiad Cydymffurfio â’r Iaith Gymraeg.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: