Manylion y penderfyniad

Disabled Facilities Grant Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To consider the revised Policy for Disabled Facilities Grant

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bolisi diwygiedig mewn perthynas â Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Aeth y Rheolwr Budd-Daliadau ymlaen i drafod sut roedden nhw’n gwneud y polisi yn gliriach, ac yn dilyn ymlaen o Adroddiad Archwilio bod y broses o ran addasiadau i gartrefi wedi cael ei wella'n arw. Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod y gwiriadau dichonoldeb bellach yn cael eu gwneud gyntaf ac nad oedd rhaid i eitemau fel lifft ar risiau angen mynd drwy’r broses Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl bellach.

 

Soniodd y Cadeirydd am bryderon blaenorol a godwyd gan breswylwyr am faint o amser roedd hi’n gymryd i ddisgwyl i wahanol gontractwyr orffen gwahanol gamau o’r broses. Gofynnodd a oedd hyn wedi cael ei ddatrys. Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod y cytundeb fframwaith cyfredol gyda’r Contractwyr i fod i gael ei adolygu yn fuan yn 2020.  Fel rhan o’r Polisi diwygiedig, byddai gan y preswylwyr swyddog cyswllt penodol yn y Cyngor a fyddai’n cysylltu’n rheolaidd gyda’r Contractwyr i wneud yn si?r bod prosiectau'n cael eu cwblhau o fewn y terfyn amser.

 

Soniodd y Cynghorydd Helen Brown am nifer y diwrnodau roedd hi’n gymryd i gwblhau addasiad i unigolyn anabl, a holodd a oedd y system ‘stopio’r cloc’, lle roedd yr amser a gymerir i gwblhau addasiad yn cael ei oedi petai materion tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn codi ac yn parhau i gael eu gweithredu. Atebodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod y system ‘stopio’r cloc’ yn parhau i gael ei weithredu, a oedd yn dod â mwy o aliniad i sut roedd awdurdodau eraill yn cofnodi gweithgarwch. Roedd hyn hefyd yn helpu preswylwyr oedd yn teimlo eu bod angen egwyl o’r gwaith sydd ynghlwm ag ymgymryd ag addasiad i’r anabl mewn amgylchiadau cymhleth.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Paul Shotton a Rosetta Dolphin yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed drwy gyflwyno polisi diwygiedig. Cododd y Cynghorydd Dolphin bwynt am y targedau perfformiad wrth gwblhau addasiadau i'r anabl a holodd pa bryd y credir y bydd perfformiad yn gwella. Dywedodd y Prif Swyddog bod y perfformiad yn gwella a byddai’n parhau i gael ei fonitro’n agos fel rhan o’r adroddiadau monitro perfformiad chwarterol i’r Pwyllgor. Dywedodd oherwydd natur cymhleth rhai o’r addasiadau i’r anabl, ac oherwydd bod nifer wedi cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol oherwydd nawdd, bod llawer o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl wedi bod yn y system ers peth amser.  Roedd y rhain yn cael eu datrys, ond roedd eu perfformiad yn llesteirio perfformiad cyfredol bob un o’r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl oedd yn y system. Petaent yn cael eu gosod i un ochr, a bod terfynau amser ar gyfer y rheiny sy’n destun y polisi newydd yn cael eu mesur, yna byddai darlun mwy cadarnhaol o lawer o gyflawni gwaith ar amser i’w weld.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Polisi diwygiedig.

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Dogfennau Atodol: