Manylion y penderfyniad
Liaison with the Council on Ethical Issues
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ganlyniad penderfyniad y Pwyllgor ar 2 Medi 2019 i’r Cyngor fabwysiadu’n wirfoddol nifer o argymhellion arfer gorau a wnaed gan y ‘Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus’. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â'r argymhelliad penodol i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau gwrdd yn rheolaidd ag uwch ffigurau yn y Cyngor i roi cyfle i drafod yn anffurfiol ar raglen waith y Pwyllgor ac i godi unrhyw bryderon ynghylch gweithdrefnau, protocolau neu ymddygiad Aelodau.
Yn dilyn cytundeb gan Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor, trefnwyd cyfarfod rhagarweiniol gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 18 Tachwedd, gyda'r nod o gynnal cyfarfodydd dilynol bob chwe mis.
Nodwyd awgrym y Cynghorydd Johnson y dylid cynnal yr ail gyfarfod cyn dyddiad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Heesom iddo am gynnwys Arweinwyr Gr?p, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai'r cyfarfod cyntaf gynnwys ystyriaeth ar aelodaeth y gr?p ac amlder cyfarfodydd. Croesawyd hyn gan y Cynghorydd Heesom. Eglurodd y Swyddog Monitro hefyd na fyddai angen i'r rheini ar yr aelodaeth ddatgan cysylltiadau personol gan fod hwn yn gr?p mewnol y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Croesawu cytundeb yr Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor i gyfarfodydd cyswllt bob chwe mis; a
(b) Bod y materion allweddol a nodir yn yr adroddiad yn ffurfio'r agenda ar gyfer cyfarfodydd o'r fath a'r cyfarfod cyntaf yn ystyried aelodaeth ac amlder cyfarfodydd yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 04/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/11/2019 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: