Manylion y penderfyniad

Review of the Flintshire Standard

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i adolygu’r safonau ymddygiad disgwyliedig a oedd yn Safon Sir y Fflint/y Weithdrefn Ddatrys Leol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod Swyddogion wedi adolygu’r Safon gydag Arweinwyr Grwpiau ac awgrymwyd rhai diwygiadau i ehangu ac egluro disgwyliadau o ran ymddygiad. Roedd y Pwyllgor Safonau, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019, wedi cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig ac awgrymodd hefyd y dylai cwynion dan y Safon gael eu gwneud o fewn 3 mis yn hytrach na 12 mis.  Gan fod datrysiad lleol wedi’i fwriadu i fod yn ddatrysiad cyflym, roedd y newid awgrymedig yn gyson ag amcanion y broses.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 38, adran 6, yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd y penderfyniad i fynd ymlaen i gam 2 neu gam 3 yn cael ei wneud gan y Swyddog Monitro neu’r sawl sy’n cwyno. Cyfeiriodd hefyd at adran 7, Cam 2 yn y Weithdrefn a, gan gyfeirio at y pedwerydd pwynt bwled, gofynnodd beth fyddai’r weithdrefn pe bai Aelod yn annibynnol ac nad oedd yn perthyn i gr?p ac nad oedd ganddo/ganddi Arweinydd Gr?p.  Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pwyntiau a godwyd a chytunodd i roi mwy o ystyriaeth i hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at dudalen 38, adran 13 (b) a rhoddodd ei farn nad oedd y datganiad ‘dim angen gweithredu ymhellach’ yn foddhaol os oedd sail i g?yn. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y tri dewis a oedd ar gael i’r Pwyllgor Safonau, fel yr oedd yr adroddiad yn ei nodi, a rhoddodd eglurhad ac enghreifftiau ar sut y gellid dod i gasgliad. Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Bithell ynghylch paragraff 16, tudalen 39, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod gan un sy’n cwyno hawl statudol i gyflwyno cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Dywedodd nad oedd gweithdrefnau lleol yr Awdurdod yn atal cwyn rhag cael ei chyflwyno i’r Ombwdsmon bod Aelod wedi torri Cod Ymddygiad yr Aelodau.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 35 yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd angen pennawd ar gyfer Ymddygiad Cyhoeddus a phennawd ar wahân ar gyfer Ymddygiad yng nghyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgorau. Awgrymodd y Prif Swyddog y gellid cyfuno’r ddau bennawd i ffurfio un pennawd, ‘Ymddygiad a ddisgwylir tuag at eraill’, a chytunodd y Pwyllgor ar hynny. Awgrymodd y Cynghorydd Kevin Hughes y gellid cynnwys cyfeiriad dan y pennawd at yr angen i’r Aelodau ymddwyn yn barchus wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu ar-lein.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell Safon ddiwygiedig Sir y Fflint i’r Cyngor i’w mabwysiadu.

Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew

Dyddiad cyhoeddi: 04/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 16/10/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/10/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: