Manylion y penderfyniad

Funding and Flight Path Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Nododd Mr Middleman mai rhan hanfodol y cyllid a'r buddsoddiad yw rheoli'r risg a wneir trwy'r llwybr hedfan. Nododd fod y lefelau amddiffyn ecwiti wedi cynyddu 5% o'r c£350m a gwmpesir.

 

Nododd y cymerwyd y cyfle i gynyddu'r amddiffyniad rhag risgiau ar arian cyfred i c75% yn gyffredinol i gloi enillion hyd yma i mewn. Roedd hyn ar y sail bod Brexit â Dim Bargen yn llai tebygol.

 

Holodd y Cynghorydd Bateman a yw'r broses o reoli risg yn gostus. Cadarnhaodd Mr Middleman fod cost i reoli risg, yn amrywio o gost gweithredu a'r gost barhaus o reoli'r risg honno. Yr allwedd yw ystyried “gwerth am arian” y rheoli risg yn erbyn y gost a gwneir hyn bob amser fel rhan o'r broses o benderfynu a ddylid ei weithredu ai peidio. Hyd yma mae budd cyffredinol y llwybr hedfan wedi gorbwyso'r gost yn sylweddol.

 

Tynnodd Mr Harkin sylw at y gost ar dudalen 202, paragraff 1.07. Nododd hefyd fod dibrisiant y bunt yn arwain at elw i'r Gronfa oherwydd yr amlygiad ecwiti tramor corfforol heb ei reoli. Mynegodd fod angen bancio'r enillion hyn fel y gallai'r Gronfa gadw'r enillion pe bai'r bunt yn cryfhau.

 

Dywedodd Mr Harkin y bydd manylion pellach am hyn yn y sesiwn hyfforddi ym mis Hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor wedi nodi'r sefyllfa ariannu wedi'i diweddaru (ar ragdybiaethau sy'n gyson â phrisiad 2016) a'r sefyllfa rheoli risg ar gyfer y Gronfa a'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar wahanol elfennau'r Fframwaith Rheoli Risg;

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn nodi fod y strwythur amddiffyn ecwiti bellach wedi'i ddiwygio i gynyddu lefel yr amddiffyniad; a

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn nodi bod unrhyw risg arian cyfred sy'n gysylltiedig â gwerth marchnadol y portffolio ecwiti synthetig a'r marchnadoedd ecwiti datblygedig sydd bellach wedi'u rheoli’n llawn.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: