Manylion y penderfyniad

Flintshire Food Enterprise and the Food Poverty Response

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To seek approval in principle for the formation of a Flintshire Food Enterprise.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a’r model busnes ar gyfer y busnes menter gymdeithasol newydd. 

 

            Diffiniwyd Tlodi Bwyd fel ‘pobl heb fynediad at fwyd ffres da trwy ddewis’, a chyfeiriwyd at y diffiniad ‘os ydych yn bwydo pobl yn dda, maent yn fwy tebygol o allu dod allan o’u sefyllfa’. Roedd yn hysbys am £1 a oedd yn cael ei gwario ar fwyd wedi’i brosesu, roedd 37c yn cael ei hychwanegu ar gyfer afiechydon yn ymwneud â diet a oedd angen triniaeth yn nes ymlaen. 

 

Penderfynodd y Cyngor Sir, a’i bartneriaid Tai Clwyd Alyn a Can Cook, yn flaenorol i gynnig cefnogaeth i’r rhai oedd yn fwyaf diamddiffyn ac nad oedd ganddynt fynediad i fwyd da, ffres. Yn ystod yr ymgyrch Llwglyd Dros y Gwyliau cynhyrchwyd cyhoeddusrwydd cadarnhaol a dosbarthwyd dros 17,000 o brydau i blant yng nghymunedau’r Sir a fyddai fel arall wedi bod mewn angen yn ystod y gwyliau. Oherwydd llwyddiant yr ymgyrch yn 2018, ailadroddwyd yr ymgyrch ac roedd yr ymateb yn llawer mwy yn 2019.

 

Ers hynny, roedd y Cyngor a’i bartneriaid wedi bod yn archwilio nifer o opsiynau a fyddai’n sicrhau datblygu datrysiad cynaliadwy a mwy hirdymor i dlodi bwyd.

 

Roedd y model busnes, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ar ffurf atodiad cyfrinachol, ar gyfer busnes menter gymdeithasol newydd gyda’r tri phartner â hawliau cyfartal dros reoli a darparu’r gweithrediad.  Byddai bwyd yn cael ei baratoi yn Sir y Fflint drwy nifer o ganolfannau, gyda phrif ganolfan paratoi bwyd yn ardal Shotton.

 

Y brif nod fyddai cyrraedd a datblygu modelau cynaliadwy er mwyn i bobl gael mynediad i fwyd da, fforddiadwy a ffres, yn arbennig drwy gysylltu â'r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud a'r gwasanaethau a ddarperir fel:

 

·         Gofal cartref a chysylltu darpariaeth bwyd gyda gwasanaethau gofal;

·         Datblygu rhaglen drawsnewid o gymorth bwyd i brynu bwyd ar gyfer grwpiau diamddiffyn, e.e. teuluoedd digartref;

·         Cysylltu â gwasanaethau sy’n cefnogi trigolion ac yn mewnoli cefnogaeth o amgylch darpariaeth bwyd yn y gwasanaethau hynny; a

·         Defnyddio darpariaeth bwyd fel catalydd i ddechrau mynd i’r afael ag unigedd ac ynysu

 

Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad gan ddweud ei fod yn alinio â Chynllun y Cyngor a bod yn Gyngor Gofalgar.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r holl Swyddogion a oedd yn rhan o’r prosiect a fyddai o gymorth wrth ymdrin â materion cymdeithasol; roedd y Cyngor yn awyddus i symud ymlaen â’r prosiect cyn gynted â phosib.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cefnogi a chymeradwyo’r cynnig am fodel Menter Gymdeithasol newydd a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau tlodi bwyd yn y Cyngor; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor, i gymeradwyo’r cynllun busnes, contractau a dogfennau cyfreithiol.

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 03/10/2019

Accompanying Documents: