Manylion y penderfyniad
Housing Rent Income
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an operational update on rent
collection and current arrear levels
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad chwarterol ar gasglu rhent gan gy nwys y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dilyn yr adroddiad diweddariad diwethaf yn Chwefror 2019.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod yr ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, hyd at wythnos 34 (25/11/2019) yn £2.23 miliwn, o’i gymharu â £2.38miliwn ar yr un pwynt yn 2018/19, oedd yn dangos sefyllfa casglu gwell gyda rhent cyffredinol yn gostwng £150,000. Dywedodd y gwnaed cynnydd graddol i leihau’r ôl-ddyledion rhent, a chyflawnwyd hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r canlynol:-
- Adnoddau cynyddol
- Cyflwyno canolbwynt ymyrraeth gynnar i gynorthwyo’r tenantiaid hynny mewn mwy o risg o golli eu cartrefi.
- Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser.
- Buddsoddi mewn Meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft
Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod gweithredu’r meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft yn helpu’r gwasanaeth i nodi achosion ôl-ddyledion rhent yn gyflym ac roedd ymyrraeth gynt yn cael ei rhoi ar waith fesul achos i atal ôl-ddyledion rhag datblygu ond sicrhau bod tenantiaid yn cwrdd â’u rhwymedigaethau talu.
Roedd y Cadeirydd yn croesawu canlyniad a chadarnrwydd y gwasanaeth a meddalwedd newydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a fyddai yna effaith ar y Cyngor os byddai Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn troi tenant allan. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod Cymdeithas Dai Clwyd Alyn wedi mabwysiadu polisi dim troi allan.
Diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge i swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y gostyngiad mewn ôl-ddyledion rhent. Mynegodd bryderon am denantiaid yn cael eu hannog i drefnu gorchmynion rhyddhau o ddyled drwy hysbysebion a gofynnodd a fyddai hyn yn effeithio ar allu’r Cyngor i hawlio rhent oedd yn ddyledus yn ôl. Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod darpariaeth ar gyfer gorchmynion rhyddhau o ddyled ond roedd hyn yn cael ei fonitro i sicrhau nad oedd tenantiaid yn ymgeisio am ail orchymyn rhyddhau o ddyled.
Roedd y Cynghorydd Heesom yn canmol swyddogion a’r tîm am y ffordd yr oeddent yn cynorthwyo tenant mewn dyled i hwyluso eu gallu i gadw eu cartref a lleihau eu dyled.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Wisinger, eglurodd y Rheolwr Refeniw bod gan oddeutu 140 o denantiaid rhwng £2500 a £5000 o ddyled mewn rhent.
Roedd y Cynghorydd Attridge yn cynnig yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad, gydag argymhelliad ychwanegol i’r Pwyllgor ddiolch i swyddogion o fewn y Tîm Refeniw am y gwaith a wneir i barhau i leihau’r ôl-ddyledion rhent. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod sefyllfa ariannol ddiweddaraf ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, fel y darparwyd yn ystod y cyfarfod yn cael ei nodi; a
(b) Y Pwyllgor i ddiolch i swyddogion o fewn y Tîm Refeniw am y gwaith a wneir i barhau i leihau’r ôl-ddyledion rhent.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Dogfennau Atodol: