Manylion y penderfyniad
Multi Asset Credit Transition
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Esboniodd Mr Campbell fod gan y Gronfa ddyraniad strategol o 12% i Gredyd Aml-Ased sydd wedi’i reoli gan Bartneriaid Buddsoddi Stone Harbor a sydd yn cynrychioli gwerth cyfredol o c£200m. Mae cronfa Credyd Aml-Ased bellach yn cael ei chynnig gan Gronfa Cymru fel rhan o’r Is-Gronfeydd Incwm Sefydlog. Ar ôl diwydrwydd dyladwy priodol, cytunwyd y byddai daliad y Gronfa yn cael ei drosglwyddo i’r is-gronfa a gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo hyn a dirprwyo'r gwaith o amseru hynny i swyddogion.
Yna fe aeth Mr Campbell drwy sleidiau at ddibenion hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer y Pwyllgor cyn gwneud y penderfyniad hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Cadarnhaodd y Pwyllgor y penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Aml-Ased Partneriaeth Pensiynau Cymru, a ariennir drwy’r mandad cyfredol gyda Phartneriaid Buddsoddi Stone Harbor.
(b) Yn unol â gofynion yr IAA yngl?n â materion wedi’u neilltuo, fel y bônt yn berthnasol i amseriad y newid, cytunodd y Pwyllgor y dylid trosglwyddo’r asedau yn y misoedd i ddod ar sail cyngor rheolwr newid arbenigol.
(c) Dirprwyodd y Pwyllgor y dasg o bennu union amser y trosglwyddiad i’r swyddogion hynny o Gronfa Bensiynau Clwyd oedd yn aelodau o'r Gweithgor Swyddogion, ar ôl ystyried cyngor y rheolwr newid arbenigol.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod a darparu’r wybodaethdiweddaraf, a nododd y cynhelid cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 4 Medi. Daeth y cyfarfod i ben am 1pm.
……………………………………
Cadeirydd
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd