Manylion y penderfyniad
Whistleblowing Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Archwilio Mewnol a esboniodd y gwahaniaethau rhwng yr hen bolisi a'r polisi newydd. Yna, gwahoddwyd cwestiynau gan y Cadeirydd.
Gofynnodd aelodau nifer o gwestiynau a gwneud nifer o awgrymiadau at ddibenion egluro. Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i wneud y newidiadau hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Chris Bithell ynghylch datgelu mewn achosion eithriadol, sicrhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr Aelodau y byddent yn cael eu trin fesul achos a nododd nad oedd wedi cael achos o'r fath yn ystod ei hamser gyda Sir y Fflint.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Johnson am atgyfeiriadau priodol at Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
PENDERFYNWYD:
a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Archwilio ar gyfer Polisi Rhannu Pryderon y Cyngor;
b) Bod y diwygiadau a wnaed yn ystod y cyfarfod yn cael eu hymgorffori yn y Polisi; a
c) Bod y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud y newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor Sir.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Accompanying Documents: