Manylion y penderfyniad
Review of the Flintshire Standard
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i adolygu'r safonau ymddygiad disgwyliedig sydd o fewn Gweithdrefn Safon / Datrysiad Lleol Sir y Fflint. Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd fod Aelodau a Swyddogion wedi dymuno adolygu cynnwys Safon Sir y Fflint i ehangu ac egluro'r canllawiau ynddo ac ailddatgan ac atgyfnerthu'r ymddygiadau a ddisgwylir. Roedd y diwygiadau a awgrymwyd gan Swyddogion ac Arweinwyr Gr?p i'r Safon wedi’u manylu yn yr atodiad i'r adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymodd aelodau'r Pwyllgor y diwygiadau pellach a ganlyn:
Tudalen 15: yn Saesneg, y gair ‘Chairman’ i’w ddisodli gan ‘Chair’ drwyddi draw.
Tudalen 15, pwynt bwled olaf: y geiriad i’w ddiwygio i ddarllen ‘Aelodau ar y cyd ac yn unigol i sicrhau bod swyddogion yn cael eu trin â pharch mewn cyfarfodydd cyhoeddus o fewn y ward(iau)’.
Tudalen 17, paragraff 2: Gwnaeth y Cynghorydd Arnold Woolley sylwadau ar yr angen i fynd i'r afael â materion ymddygiad gwael yn gyflym a mynegodd bryderon ynghylch yr amserlen 12 mis y cyfeiriwyd ati. Ymatebodd y Swyddog Monitro i'r sylwadau a godwyd a rhoddodd eglurhad ar weithdrefnau. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y dylid newid y geiriad i ddarllen ‘Dim ond yn y 90 diwrnod cyn i g?yn gael ei gwneud yn ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro y bydd y weithdrefn hon yn berthnasol’.
Tudalen 18, paragraff 7: awgrymwyd y dylid ystyried y geiriad ‘neu ddirprwy enwebedig’ os nad oedd y Prif Weithredwr ar gael i ddod i gyfarfod.
Tudalen 18, paragraff 8: newid y geiriad i ddarllen ‘Pwrpas y cyfarfod hwn fydd ceisio datrys y mater trwy gymodi. Os bernir bod angen hynny gall y Prif Weithredwr alw ar y Swyddog Monitro a / neu’r Dirprwy Swyddog Monitro am gyngor a chymorth’..
Tudalen 18, paragraff 9: diwygio’r gair ‘Safon’ i ddarllen ‘Safonau’.
Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai angen i'r ddogfen ddiwygiedig gael ei hystyried gan y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd cyn ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
Yn ddarostyngedig i'r diwygiadau pellach y manylir arnynt uchod yn Safon Sir y Fflint, dylid argymell i'r Cyngor eu mabwysiadu.
Awdur yr adroddiad: Democracy & Governance Manager (Tracey Cunnew)
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 02/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/09/2019 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: