Manylion y penderfyniad

Removal of School Transport Anomalies

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To review the options for the early cessation of the school transport anomalies identified in the 2019 service review.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd yCynghorydd Thomas adroddiad cael gwared ar anghysonderau o ran cludiant i’r ysgol sydd, o ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor, yn opsiwn ar gyfer cael gwared ar yr anghysonderau hanesyddol o ran cludiant ym mis Gorffennaf 2019, yn lle Gorffennaf 2020 fel y cytunwyd yn flaenorol, i sicrhau arbedion yn y gyllideb.

 

            Cwblhawyd ymarferiad optimeiddio llwybrau cludiant ac ail-gaffael ym Medi 2017, gyda’r ymarferiad yn sicrhau’r budd gorau i’r gwasanaeth drwy sicrhau bod cerbydau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon ynghyd â llwybrau a chapasiti cerbydau mwyaf cost effeithlon ar gyfer y nifer gofynnol o deithwyr cymwys. O ganlyniad i’r adolygiad, nodwyd nifer o drefniadau cludiant anstatudol hanesyddol oedd yn ychwanegol at y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol presennol gyda chyfleoedd am wasanaeth arall ac arbedion effeithlonrwydd posibl.  

 

            Cyflwynwyd adroddiadau i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Ngorffennaf a Thachwedd 2018 lle cytunwyd ar opsiwn i gefnogi parhad anghysonderau tan fis Gorffennaf 2020 gyda chefnogaeth y Cabinet ar 20 Tachwedd 2018. Fodd bynnag, o ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r awdurdod, cyflwynwyd opsiwn o gael gwared ar yr anghysonderau hanesyddol o ran cludiant o fis Gorffennaf 2019.

 

            Opsiwn 1 oedd cael gwared ar yr anghysonderau ym mis Gorffennaf 2020. Byddai hyn yn cael effaith ar y gyllideb cludiant ysgolion ond byddai’n caniatáu i’r Uned Drafnidiaeth Integredig gynnal cyfnod ymgynghori ehangach gyda disgyblion i ystyried trefniadau cludiant eraill.

 

            Opsiwn 2 oedd cael gwared ar yr anghysonderau ym mis Gorffennaf 2019. Byddai hyn yn sicrhau arbediad ariannol i’r awdurdod ond byddai’n cael effaith sylweddol ar y disgyblion hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau gan nad oes unrhyw opsiynau cludiant cyhoeddus eraill ar hyn o bryd ar hyd y llwybrau hynny.

 

            Argymhellodd y Cynghorydd Thomas fod opsiwn 1 yn cael ei gefnogi yn unol â’r penderfyniad blaenorol gan y Cabinet a gefnogwyd.

 

            Eglurodd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’r garfan o blant oedd wedi mynychu Ysgol Uwchradd John Summers yn flaenorol yn parhau i gael cludiant am ddim i’r ysgol i Ysgol Uwchradd Cei Conna nes bod eu cyfnod yn yr ysgol wedi dod i ben. Croesawyd hyn gan y Cynghorydd Jones.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Weithredwr pe byddai cael gwared ar yr anghysonderau cludiant i’r ysgol wedi cael ei ddwyn ymlaen flwyddyn y byddai wedi cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb, £229,000.  Deallwyd a derbyniwyd nad oedd arbediad pellach am gael ei sicrhau fel penderfyniad yn seiliedig ar werthoedd ar sail risg i ddysgwyr a theuluoedd.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y Cyngor yn gweithredu polisi o ddewis i rieni a phwysleisiodd yr angen i rieni ddewis yn ofalus. Eglurodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y ffurflen derbyniadau ysgolion yn egluro’r polisi cludiant i’r ysgol a bod angen ticio blwch i ddweud eu bod yn deall. Roedd cydweithwyr o Strydwedd hefyd yn bresennol mewn nosweithiau agored ysgolion uwchradd i ailadrodd manylion y polisi er mwyn i rieni a gofalwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Os oeddent yn dewis peidio ag anfon eu plant i’r ysgol agosaf atynt, yna, y rhieni a’r gofalwyr fyddai’n talu am gostau cludiant.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn nodi effaith ariannol darparu anghysonderau cludiant  hanesyddol a pharhau i gefnogi’r anghysonderau tan fis Gorffennaf 2020.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 28/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/05/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 23/05/2019

Accompanying Documents: