Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy - Forecast 2020/21 - 2022/23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To update the Medium Term Financial Strategy Forecast 2020/21 – 2022/23.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig - Rhagolygon 2020/21 - 2022/23 a oedd yn rhoi trosolwg manwl o'r rhagolygon ariannol, ynghyd â rhagolygon lefel uchel hyd at 2022/23.  Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 11 Ebrill.

 

            Yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Chwefror 2019, cyflawnwyd gwaith manwl i fireinio'r rhagolygon fel eu bod y adlewyrchu gwybodaeth fwy diweddar a oedd yn seiliedig ar gudd-wybodaeth gyfredol. Dangosai'r amcanestyniad lefel uchel, ar sail materion hysbys a chan eithrio senarios ariannu cenedlaethol, fod y bwlch posibl yn y gyllideb wedi cynyddu i £13.3 miliwn ar gyfer 2020/21.  Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r rhagolygon a'r newid i sefyllfa'r Cyngor o gymharu â'r hyn a adroddwyd yn flaenorol.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai £271.350 miliwn oedd cyfanswm yr arian sydd ar gael i'r Cyngor cyn cyflwyno unrhyw newidiadau o ran Cyllid Allanol Cyfun a Threth y Cyngor.  Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn cynnwys manylion y rhagolygon cyfredol a'r ffigur newydd ar gyfer y bwlch yn y gyllideb.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion llawn y pwysau yn gysylltiedig ag Ysgolion ac Addysg, a oedd yn ymwneud â'r tri phrif faes canlynol: Anghenion Dysgu Ychwanegol, Demograffeg a Chyfiawnder Ieuenctid. Roedd y rhain wedi codi ers cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor Sir.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai angen i waith y gweithgor trawsbleidiol ganolbwyntio ar yr achos dros gynyddu cyllid cenedlaethol ar sail tystiolaeth, a oedd yn cynnwys tair prif cydran: 

 

1.    Gwarchod costau craidd rhag effaith chwyddiant;

2.    Pwysau ar wasanaethau cost uchel, ee Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phlant sy'n Derbyn Gofal; a

3.    Ailgodi'r achos y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau digon o gyllid i dalu'r gost o weithredu ei deddfwriaethau ei hun.

 

O ran sicrhau cyllid gan LlC ar gyfer ei chynlluniau ei hun, cyfeiriodd y Prif Weithredwr yn arbennig at Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r o fis Ionawr 2019, a oedd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal Corff Cymeradwyo SuDS (CCS) i ymdrin â materion draenio d?r wyneb yn gysylltiedig â datblygiadau newydd, a sicrhau cydymffurfio â safonau cenedlaethol gorfodol newydd LlC. Roedd y goblygiadau o ran costau yn cael eu cyfrifo.

 

Cytunai'r holl Aelodau â safbwyntiau'r Prif Weithredwr, yn enwedig na ddylid disgwyl i awdurdodau lleol ariannu deddfwriaeth newydd gan LlC, ac y dylai LlC ariannu unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn uniongyrchol.  Ailadroddodd y Prif Weithredwr y cyngor a roddwyd yn flaenorol, sef nad oedd unrhyw opsiynau diogel pellach i'w hystyried gan y Cyngor, ar wahân i'r darpariaethau statudol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu'r rhagolygon a oedd wedi'u diweddaru yn sail ar gyfer cynllunio cychwynnol.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 28/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 16/04/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/04/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/04/2019

Accompanying Documents: