Manylion y penderfyniad

Review of Pay Policy and Pay Model

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide a progress report on (1) pay modelling for the implementation of the second year (2019) of the two year National Joint Council (NJC) pay agreement (2018/19-2019/20) and (2) maintenance of structural design and terms of employment following the Single Status Agreement (2014).

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad cynnydd ar (1) modelu tâl ar gyfer gweithredu'r ail flwyddyn (2019) o'r cytundeb tâl dwy flynedd y Cyd-Gyngor Cenedlaethol (2018/19-2019/20); a (2) cynnal dyluniad strwythurol a thelerau cyflogaeth yn dilyn Cytundeb Statws Sengl (2014).

 

Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a dywedodd pe bai’r Cyngor yn gweithredu'r ail flwyddyn o gytundeb tâl y Cyd-Gyngor Cenedlaethol yn unol â’r model cenedlaethol ar sail debyg ‘darllen ar draws’, byddai’r model tâl lleol yn cael ei amharu i’r graddau na fyddai'n cyflawni egwyddorion dylunio sefydliadol a pholisi tâl a byddai efallai yn agored i her ar sail anghydraddoldeb rhywedd. O ganlyniad, roedd model tâl presennol y Cyngor wedi’i adolygu i ddarparu’r cytundeb tâl cenedlaethol. 

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ar fodelu tâl, cynnal a chadw y Cytundeb Statws Sengl a Newid ac Ailgynllunio Sefydliadol. Dywedodd bod blwyddyn 2 cytundeb tâl y Cyd-Gyngor Cenedlaethol yn cynnwys cyflwyno colofn gyflog ‘newydd’ gyda chymathiad i bwyntiau colofn gyflog newydd ac roedd wedi creu newid sylfaenol i’r model tâl / colofn gyflog yn lleol.   Daethpwyd i gytundeb lleol ar fodel tâl dewisedig ym mis Mawrth 2019. Arweiniodd ganlyniad cyffredinol y model newydd at weithrediad colofn gyflog cenedlaethol newydd a ddarparwyd ar ei chyfer fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ac fe arweiniodd hefyd at gyflawni colofn gyflog llyfn, mynd i’r afael â chydraddoldeb tâl a’r bwlch rhwng graddau tâl craidd Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf a graddau tâl uwch Hay.  

 

Esboniodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol bod y model tâl newydd wedi pasio’r profion o fod yn gyfreithiol, yn deg, yn ymarferol, yn gynaliadwy, yn dderbyniol ac yn fforddiadwy.  Gwnaed cyfathrebu cychwynnol i weithwyr ym mis Mawrth. Y dyddiad dod i rym o’r model tâl newydd oedd 1 Ebrill 2019 a’r dyddiad targed ar gyfer gweithredu oedd mis Gorffennaf 2019 (i’w ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019). Yn ychwanegol i Asesiad o Effaith ar Degwch mewnol, comisiynwyd Asesiad O Effaith Ar Gydraddoldeb annibynnol. Roedd yr asesiadau’n gadarnhaol ac yn darparu sicrwydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod cymeradwyaeth derfynol wedi’i rhoi i’r model tâl arfaethedig a’r strwythur graddio gan yr Undebau Llafur cydnabyddedig ym mis Ebrill ac roedd gwaith gweithredu wedi dechrau. Dywedodd mai’r gweithgarwch critigol oedd glanhau data ac adlinio portffolios ar iTrent (system feddalwedd y gweithlu) ac roedd wedi’i gwblhau. Byddai’r model newydd yn cael ei gymhwyso mewn amgylchedd prawf er mwyn ei brofi cyn ei drosglwyddo i amgylchedd byw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr fod cynnal uniondeb y model tâl yn hanfodol i ddiogelu'r Cyngor rhag hawliadau cyflog cyfartal. Roedd llywodraethu’r prosesau cynnal a chadw a monitro parhaus o’r Cydgytundeb Statws Sengl yn sicrhau bod uniondeb y Cytundeb yn cael ei gynnal a’i gyflawni yn rhannol drwy ddarparu Archwiliadau Tâl Cyfartal a chynlluniau gweithredu yn ychwanegol i ail-ddylunio gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Billy Mullin at y gwaith anodd a chymhleth a wnaed yn yr Adolygiad o’r Polisi Tâl a’r Model Tâl a mynegodd ei ddiolch i’r Prif Weithredwr ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a’i thîm am eu gwaith.  Cytunwyd y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn anfon e-bost, ar ran y Pwyllgor, i ddiolch i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, am eu gwaith a gofyn iddynt ddiolch hefyd i’r holl staff a oedd yn rhan o'r gwaith.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Swyddogion i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan yr Aelodau yn ymwneud â’r Cyflog Byw Cenedlaethol, tâl gweithwyr asiantaeth a modelau tâl tebyg mewn ardaloedd eraill,

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ar y ffigyrau a ddarparwyd ar gyfer cyfraddau o lwfansau a ddiogelir ar gyfer Technegwyr Labordy / Gweithdy.  Dywedodd y Swyddogion fod y cyfraddau hyn wedi’u cytuno’n genedlaethol ac wedi’u cadarnhau fel ffigyrau blynyddol ond nid oeddent yn berthnasol i’r Awdurdod. 

 

Tynnodd y Cynghorydd Arnold Woolley sylw at wall teipograffyddol ar dudalen 30 o’r adroddiad a dywedodd y dylid newid Cyngor Taleithiol Lleol Fwyaf i Gyngor Taleithiol Llundain Fwyaf.  Dywedodd y Cynghorydd Woolley hefyd fod ganddo bryderon ynghylch materion pensiwn ac y byddai’n eu codi gyda'r Swyddogion ar ôl y cyfarfod. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod darpariaeth wedi’i sicrhau yn y gyllideb flynyddol ar gyfer y dyfarniad cyflog. 

 

Esboniodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol bod y mwyafrif o’r gwasanaethau o fewn portffolios wedi profi rhywfaint o newid sefydliadol ers gweithrediad y cytundeb statws sengl ym mis Mehefin 2014. Ar bob achlysur roedd hyn wedi creu adolygiad o’r model gweithredu yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau strwythurau i sicrhau cysondeb a diogelu’r Cyngor rhag heriau allanol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Paul Cunningham longyfarch Swyddogion ar yr adroddiad ac fe ailadroddodd y diolchiadau a oedd wedi’u mynegi i’r Swyddogion a’r holl staff a gymerodd ran am eu gwaith caled ar yr Adolygiad o’r Polisi Tâl a'r Model Tâl.  

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Cunningham, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi a chroesawu’r cynnydd a wnaethpwyd wrth adolygu’r Model Tâl i gynnwys y cytundeb tâl cenedlaethol; a

 

 (b)      Nodi’r wybodaeth arall sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad; a

 

 (c)       Mynegi ei ddiolch i’r holl dîm o swyddogion a oedd yn rhan o adolygiad y Model Tâl a gwaith cysylltiedig.   

 

Awdur yr adroddiad: Sharon Carney

Dyddiad cyhoeddi: 29/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 09/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: