Manylion y penderfyniad

Constitutional Matters: Committees

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To deal with those matters which require decisions at the Annual Meeting of the County Council in accordance with Council Procedure Rule 1.1 (vii)-(xiii).

Penderfyniadau:

Bu’r Cyngor yn ystyried adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion yr oedd gofyn gwneud penderfyniad arnynt yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir yn unol â Rheol 1.1 (vii) – (xiv) o Weithdrefnau’r Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn delio ag un penderfyniad yr oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar bob adran yn ei thro.

 

 (i)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn darparu ar gyfer penodi’r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Roedd angen penodi’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu hefyd fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad yngl?n â’r angen i benodi Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu pan oedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi’i sefydlu. Dywedodd y Prif Swyddog, er bod y Pwyllgor Safonau’n ystyried unrhyw achosion o gynghorwyr yn torri’r Cod Ymddygiad, roedd yn ofynnol sefydlu pwyllgor ar wahân i ystyried materion disgyblu yn ymwneud â swyddogion, yn benodol y swyddogion statudol a enwyd fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am fanylion y swyddogion y byddai hyn yn berthnasol iddynt. Cytunodd y Prif Swyddog i gyflenwi enw’r swyddogion yr oedd eu swyddi wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir ym mharagraff 1.01

Pwyllgor Cwynion (penodwyd ar 9 Ebrill 2019)

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

 

 (ii)       Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod angen penderfynu ar faint pob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Roedd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau i’w gweld yn yr adroddiad, gan gynnwys argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio i gynyddu ei faint i ganiatáu derbyn aelod lleyg ychwanegol.

 

Wrth gyfeirio at bwysigrwydd y Pwyllgor Archwilio, galwodd y Cynghorydd Heesom am roi ystyriaeth bellach i faint ei aelodaeth i gynnwys cynrychiolaeth ehangach ymysg yr Aelodau, yn enwedig os ceid cynnydd yn nifer yr aelodau lleyg.  Gofynnodd a fyddai’r Arweinydd yn ystyried gohirio penderfyniad ar y pwyllgor penodol hwnnw er mwyn caniatáu amser i drafod ymhellach.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y byddai penderfyniad o’r fath yn arwain at ohirio cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar yr eitem yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Mehefin.

 

O ran y cyfyngiadau deddfwriaethol ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio, tynnodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at y rheolau ar gynrychiolaeth wardiau Aelodau amryfal fel y nodir yn adran Cydbwysedd Gwleidyddol yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Heesom, cydnabu’r Cynghorydd Roberts fanteision cael aelodau lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgorau a chynigiodd fod nifer y cynghorwyr ar y Pwyllgor Archwilio yn aros fel y mae a’u bod yn dechrau’r broses o recriwtio aelod lleyg ychwanegol. Cynigiodd y dylid ystyried awgrym y Cynghorydd Heesom fel rhan o adolygiad ehangach o’r Pwyllgorau (gan gynnwys maint aelodaeth) a gynhelir yn ystod y flwyddyn, gyda’r argymhellion a wna Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor. Eiliodd y Cynghorydd Carolyn Thomas hyn.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog am eglurhad a oedd awgrym y Cynghorydd Heesom yn gynnig ffurfiol ac a oedd yn fodlon â’r ymateb a gafwyd gan y Cynghorydd Roberts.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom, er ei fod yn gwerthfawrogi’r ymateb, na werthfawrogwyd gwerth y Pwyllgor Archwilio yn ddigonol a chynigiodd y dylai ei gynnig gael sylw ar frys heb oedi’r broses o recriwtio am ail aelod lleyg.  Eiliodd y Cynghorydd Carol Ellis hyn.

 

Dywedodd y Prif Swyddog mai gwelliant y Cynghorydd Roberts, a gynigiwyd ac a eiliwyd yn ffurfiol, yn awr oedd y Cynnig o sylwedd. O’i roi i bleidlais, fe’i derbyniwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y dylai maint pob pwyllgor fod fel y mae’n cael ei ddatgan ym mharagraff 1.04 o’r adroddiad a bod Aelod lleyg ychwanegol yn cael ei recriwtio i’r Pwyllgor Archwilio fel y nodir yn yr adroddiad; a

 

 (b)      Bod adolygiad o bwyllgorau’n cael ei gynnal yn y 12 mis nesaf gan gynnwys nifer yr Aelodau etholedig a’r aelodau lleyg ar aelodaeth y Pwyllgor Archwilio.

 

 (iii)      Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Esboniodd y Prif Swyddog fod gofyn i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodai. Roedd hyn yn cynnwys y cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgorau cyfredol fel y nodir yn y Cyfansoddiad a’r cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Cwynion y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod blaenorol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cylch gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor yn y Cyfansoddiad yn ogystal â’r Pwyllgor Cwynion a benodwyd yn y cyfarfod diwethaf a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 (iv)     Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gofyn i’r Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny, benderfynu ar ddyraniad y seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a’r Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y’u diwygiwyd.

 

Ceir 179 o seddi i gyd ar gyfer Cynghorwyr ar draws yr holl bwyllgorau ar sail aelodaeth gyfredol y grwpiau. Dangoswyd hawl pob gr?p i seddi yn y daenlen ddiwygiedig a gylchredwyd a oedd yn adlewyrchu’r newidiadau ym maint grwpiau ers cyhoeddi’r adroddiad. Roedd y cyfrifiadau seddi cydbwysedd gwleidyddol a gyflwynwyd i’w hystyried yn un o nifer o atebion posibl a chynhwysant ddarpariaeth i’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu gael cynrychiolaeth o bob gr?p gwleidyddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dyrannu’r seddi yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol (a’r rheolau ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio) fel y nodir yn y daenlen ddiwygiedig.

 

 (v)      Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff, a bod cyfyngiadau ynghlwm wrth rai ohonynt. Roedd y tabl ym mharagraff 1.20 o’r adroddiad yn amlinellu pa gorff wnaeth benodi pa Gadeirydd a pha gyfyngiadau (os o gwbl) oedd yn berthnasol. Oherwydd y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol y byddai’r Pwyllgor Cwynion yn penodi ei Gadeirydd ei hun, tybiwyd y byddai’r un peth yn digwydd yn y Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol, ac eiliodd y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

  • Penodi’r Cynghorydd Wisinger yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cynllunio;
  • Penodi’r Cynghorydd Aaron Shotton yn Gadeirydd ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
  • Penodi’r Cynghorydd Ted Palmer yn Gadeirydd ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
  • Penodi’r Cynghorydd Sharps yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Patrick Heesom welliant fod yr Arweinydd yn ystyried gohirio’r broses o benodi Cadeirydd Cronfa Bensiynau Clwyd er mwyn cael amser i ystyried ymhellach a’i drafod eto yn y cyfarfod nesaf o’r Cyngor.  Eiliodd y Cynghorydd Helen Brown hyn.

 

Er amlygu rôl allweddol Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, ni chredai’r Cynghorydd Roberts fod hwn yn rheswm digonol i ohirio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mike Peers welliant pellach fod y Cynghorydd Haydn Bateman yn cael ei benodi yn Gadeirydd ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, pwyllgor yr oedd wedi gwasanaethu arno ers nifer o flynyddoedd ac y byddai hwn yn gynnydd naturiol o’i rôl fel Is-gadeirydd. Eiliodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson y gwelliant hwn.

 

Tynnodd y Cynghorydd Heesom ei gynnig yn ôl.

 

Y gwelliant gan y Cynghorydd Peers oedd y Cynnig o sylwedd wedyn. Gofynnodd am bleidlais wedi’i chofnodi a chododd y deg Aelod angenrheidiol ar eu traed i’w gefnogi.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y daenlen ar gydbwysedd gwleidyddol, lle nad oedd y gr?p Annibynnol (yr oedd y Cynghorydd Bateman yn perthyn iddo) wedi cael yr un sedd ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.  Dywedodd y Prif Swyddog fod grwpiau’n penderfynu ar eu henwebiadau eu hunain i bwyllgorau ac y byddai grwpiau eraill o bosibl yn dymuno ystyried dyrannu sedd i’r gr?p Annibynnol er mwyn i’r Cynghorydd Bateman gymryd swydd y Cadeirydd.

 

O’i roi i bleidlais, methodd gwelliant y Cynghorydd Peers fel a ganlyn:

 

O blaid y gwelliant:

Cynghorwyr:Mike Allport, Bernie Attridge, Janet Axworthy, Haydn Bateman, Marion Bateman, Sian Braun, Helen Brown, Clive Carver, Bob Connah, Jean Davies, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, Veronica Gay, George Hardcastle, Patrick Heesom, Dennis Hutchinson, Rita Johnson, Richard Jones, Colin Legg, Brian Lloyd, Dave Mackie, Mike Peers, Ralph Small, Owen Thomas, David Williams ac Arnold Woolley

 

Yn erbyn y gwelliant:

Cynghorwyr:Glyn Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Geoff Collett, David Cox, Paul Cunningham, Ron Davies, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Mike Lowe, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Mike Reece, Ian Roberts, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas, Andy Williams a David Wisinger

 

Yn ymatal:

Cynghorwyr:Chris Dolphin, Mared Eastwood, Tudor Jones a Neville Phillips

 

Rhoddwyd y Cynnig o sylwedd, fel y’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts, i bleidlais ac fe’i derbyniwyd.

 

Rhoddwyd i bleidlais hefyd yr argymhelliad i’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu benodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith eu haelodaeth, ac fe’i derbyniwyd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol ar sail cryfder yr amrywiol grwpiau ac a oedd â seddi ar y Cabinet. Dyrannwyd y swyddi cadeiryddion i grwpiau a oedd â lle ar y Cabinet i ddechrau a châi unrhyw hawl ei dalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf. Câi’r swyddi cadeiryddion a oedd yn weddill wedyn eu dyrannu i grwpiau nad oedd ganddynt sedd ar y Cabinet, gan dalgrynnu i fyny i’r rhif cyfan agosaf.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts y canlynol, ac eiliodd y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu            Gr?p i Ddewis Cadeirydd

Cymuned a Menter                                Llafur (Cynghorydd Ian Dunbar)

Addysg ac Ieuenctid                              Llafur (Cynghorydd David Healey)

Adnoddau Corfforaethol                       Ceidwadwyr

Yr Amgylchedd                                       Annibynnol Newydd

Newid Sefydliadol                                  Cynghrair Annibynnol

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.            Democratiaid Rhyddfrydol (cyfnewid ag Annibynnol)

 

O’i roi i bleidlais, fe’i derbyniwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau canlynol (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar bwy sy’n gymwys):

 

·             Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd – Cynghorydd Aaron Shotton

·             Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd – Cynghorydd Ted Palmer

·             Pwyllgor Trwyddedu – Cynghorydd Tony Sharps

·             Pwyllgor Cynllunio – Cynghorydd David Wisinger

 

 (b)      Y dylai’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu benodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith yr aelodaeth; ac

 

 (c)       Y dylid dyrannu i’r grwpiau canlynol swydd cadeirydd ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel yr amlinellir:

 

            Cymuned a Menter                         -             Gr?p Llafur

            Adnoddau Corfforaethol                -             Gr?p Ceidwadwyr

            Addysg ac Ieuenctid                       -             Gr?p Llafur

            Yr Amgylchedd                                -             Gr?p Annibynnol Newydd

            Newid Sefydliadol                           -             Gr?p y Cynghrair Annibynnol

            Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.     -             Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol

 

 (vi)     Swyddogaethau Dewis Lleol

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod gofyn i’r Cyngor gytuno ar y cyfryw ran o’r Cynllun Dirprwyo ag y barna’r Cyngor y dylai’r Cyngor gytuno arni. Roedd hyn yn ymwneud â’r swyddogaethau dewis lleol y gallai naill ai’r Cyngor benderfynu arnynt neu’r Cabinet a/neu ei ddirprwyo i swyddogion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts y dylid cymeradwyo bod y swyddogaethau Dewis Lleol presennol yn cael eu cadarnhau, ac fe’i heiliwyd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r swyddogaethau Dewis Lleol fel y’u nodir yn y Cyfansoddiad.

 

 (vii)    Enwebiadau i Gyrff Mewnol

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau i swyddogion haen gyntaf ac ail haen, a fydd yn cynnwys saith Aelod. Nid pwyllgor sefydlog mo hwn ac fe’i cynullwyd pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinyddion Grwpiau. Argymhellwyd y dylai strwythur y Pwyllgor barhau, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo strwythur y Pwyllgor Penodiadau.

 

 (viii)   Pwyllgor Safonau a Phenodiadau i Gyrff Allanol

 

Eglurodd y Prif Swyddog gyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau, a gofynnwyd i’r Aelodau nodi hyn, ochr yn ochr â’r Aelodau a benodir i Gyrff Allanol ar gyfer tymor llawn y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts y ddau argymhelliad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau; a

 

 (b)      Bod y Cyngor yn nodi bod enwebeion i Gyrff Allanol wedi cael eu penodi ar gyfer tymor llawn y Cyngor ynghyd â ph?er y Prif Weithredwr i amrywio’r enwebiadau hynny (o ymgynghori ag Arweinyddion Grwpiau).

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 07/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/05/2019 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: