Manylion y penderfyniad

Healthy Schools and Pre-School Programme

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the outcome of the School Health Research Network research

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Iechyd, Lles a Diogelu adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganlyniad ymchwil Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gyda’r Cynllun Ysgolion Iach, Cynllun Cyn Ysgol Iach y bu pob un o’n hysgolion yn rhan ohonynt a’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol.Roedd y Rhaglen Ysgolion Iach wedi bod yn weithredol am 17 o flynyddoedd ac wedi darparu dull ysgol gyfan at les a bellach wedi ehangu i Ysgolion Cyn Ysgol Iach. Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a gynhaliwyd yn ystod y 12 mis diwethaf a chyfeiriodd aelodau at y targedau a ddengys yn Adran 1.04 a oedd wedi’u cwrdd ac roedd hefyd yn falch o gadarnhau fod 10% o ysgolion wedi ennill y statws gwobr ansawdd genedlaethol.

 

Parhaodd i ddarparu gwybodaeth am y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol a oedd yn darparu brecwast, cinio a chyfleoedd i wneud ymarfer corff a choginio ar ddau safle gyda chynigion i ymestyn hyn i Ysgol Uwchradd Y Fflint ac Ysgol Gynradd Queensferry.Cyfeiriodd yr Aelodau at y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion mewn partneriaeth â gwneuthurwyr polisïau Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cancer Research UK a Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru i gael data ar les. Bu i’r holl ddisgyblion ysgol uwchradd gymryd rhan yn yr astudiaeth yn yr hydref 2017 gydag 82% o ddisgyblion yn cymryd rhan yn yr arolwg.Roedd yr arolwg yn cynnwys bwyd, ffitrwydd a gweithgarwch corfforol, iechyd emosiynol, defnydd a chamddefnydd sylweddau a rhyw a pherthnasau.Roedd cael ysgolion i gymryd rhan yn llwyddiant aruthrol yn enwedig oherwydd pwysigrwydd y data.Yn y Gwanwyn 2018 roedd pob ysgol wedi derbyn ei adroddiad unigol ac ym mis Tachwedd 2018 cwblhawyd yr adroddiad sirol cyntaf.Roedd embargo ar ddata cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru hyd at fis Ebrill.Roedd Cynlluniau Gweithredu ym mhob ysgol a oedd dan arweiniad disgyblion ym mhob Ysgol Uwchradd ac roedd Cynllun Gweithredu Sirol yn cael ei ddatblygu a fyddai’n cael ei rannu wedi i’r data cenedlaethol gael ei gyhoeddi. Roedd cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ymweld â dau ddigwyddiad ysgol ac yna darparodd wybodaeth am yr elfennau pwysicaf. Roedd Sir y Fflint o fewn y cyfartaledd cenedlaethol ac roedd hyn yn y cynllun 4 blynedd a gydag arolwg arall yn cael ei gynnal yn yr hydref. Byddai’r data yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ac i sicrhau cyfleodd i ymgysylltu â rhieni yn y cynlluniau gweithredu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes fod hwn yn adroddiad ardderchog ond nid oedd yn un hawdd i’w ddarllen o ystyried bod y ffigyrau ar alcohol yn 51% a chyffuriau yn 31% gan nodi bod Canabis yn gyffur sy’n arwain at eraill ac ni ddylid ei fychanu. Mynegodd bryder o ran y 22% o blant 13 oed neu iau oedd yn weithredol yn rhywiol pan mae’r oedran cydsynio yw 16 mlwydd oed, roedd hwn yn ystadegyn pryderus iawn. Nid oedd y gymdeithas yn gwneud digon i’r plant hyn ac roedd angen i rieni chwarae mwy o ran. O ran yr ystadegyn o 41% yn cael eu bwlio, gofynnodd faint o hynny oedd yn fwlio ar-lein.Gofynnodd hefyd pa mor hyderus oedd y Cyngor yng nghywirdeb y ffigyrau.

 

Esboniodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod yr ystadegau yn ganlyniad o bwysau ar y cwricwlwm cenedlaethol ar ysgolion a bod addysg bersonol a chymdeithasol wedi’i neilltuo gyda rhai ysgolion ddim ond yn cael 1 diwrnod iechyd bob hanner tymor. Roedd gan Iechyd a Lles chwe ffrwd ar y cwricwlwm cenedlaethol newydd a fyddai’n newid sut roedd ysgolion yn blaenoriaethu iechyd a lles. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein gyda phob plentyn yn gorfod darparu cydsyniad rhieni ac roedd rhaid ei gwblhau dan amodau tebyg iawn i arholiad yn yr ystafell TG yn yr ysgol. O ran cywirdeb, roedd yn anodd iawn i’w brofi ond roedd cwestiwn ar wahân ynghylch bwlio ar-lein a nododd 23% o’r disgyblion eu bod wedi cael eu bwlio ar-lein, a oedd yn ffigwr uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Tudor Jones ei fod yn adroddiad ardderchog a gyflwynwyd yn dda ac roedd hefyd yn cytuno â sylwadau’r Cynghorydd Hughes. Cyfeiriodd at yr agweddau newidiol tuag at ysmygu er enghraifft, roedd nifer yr ysmygwyr bellach yn gostwng. Gofynnodd pryd y byddai’r arolwg hwn yn cael ei ailadrodd a fyddai’n allweddol er mwyn gweld gwelliant. Cyfeiriodd at y rhaglenni cyfoethogi gwyliau ysgol a gwnaeth sylw am rieni a oedd yn brwydro i fforddio’r prydau a gofynnodd a oedd ystyriaeth wedi’i rhoi i’r syniad o rannu’r flwyddyn academaidd yn bedwar tymor y flwyddyn.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog gan ddweud mai awdurdodau unigol oedd â’r grym i wneud y penderfyniad hwnnw yn Lloegr, ond roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol gynnal eu gwyliau ar yr un adeg i gynorthwyo rhieni sydd efallai yn byw o fewn un sir ond yn gweithio yn un arall. Nid oedd yn ymwybodol o unrhyw newid gan Lywodraeth Cymru’n genedlaethol ar y mater. Cydnabu bod y cyfnodau gwyliau hir yn effeithio ar ddysg plant a gofynnodd a fyddai modd cynnwys hyn ar y rhaglen yn y dyfodol ond ychwanegodd nad oedd wedi gweld unrhyw beth gan athrawon ar y mater.

 

Roedd y Cynghorydd Heesom yn pryderu am y bwlch rhwng grwpiau cyfoedion ac roedd y ffigyrau o 70% o blant a oedd yn dibynnu ar eu ffrindiau yn hynod bryderus.Dylid defnyddio hyn er mwyn adeiladu arno. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at flaenoriaethau Cynllun y Cyngor a’r cynlluniau gwasanaeth a’r gwaith gwella ysgolion oedd yn canolbwyntio ar hyn. Roedd yr holl Benaethiaid yn cytuno â’r blaenoriaethau hyn. Trafododd fesurau atebolrwydd a dangosyddion perfformiad y model cwricwlwm gydag addysg gymdeithasol wrth wraidd y cwricwlwm. Roedd y Gweinidog wedi cyhoedd newidiadau â materion craidd mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd a gyhoeddwyd ar ddiwedd Ebrill.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at ddogfen a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol yr wythnos hon a oedd yn trafod ail gyfuno gwerthoedd cymdeithasol a oedd yn berthnasol i hyn ac yn cynnig cymysgedd o’r hyn yr oedd swyddogion yn ei ddweud. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu ei bod wedi cwrdd â chynrychiolwyr, yn cynnwys cynghorau ieuenctid a oedd yn ymgysylltu â phob rhan o’r awdurdod lleol ac yn nodi lles fel un o’r meysydd blaenoriaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks fod hwn yn adroddiad ardderchog ond roedd yn pryderu’n arw am y ffigyrau bwlio a nodwyd, sef 41%, a gofynnodd beth oedd ar y gweill i wella hyn. Cyfeiriodd at nifer y plant a oedd yn weithredol yn rhywiol a dywedodd ei bod hi’n anodd atal pobl ifanc rhag cael rhyw a gofynnodd, pe bai merch 13 oed a bachgen 14 oed yn mynd ar y nyrs ysgol a fyddai modd iddynt gael meddyginiaeth atal cenhedlu o’r ysgol. Ymatebodd yr Ymgynghorydd Dysgu i’r pwynt cyntaf mewn perthynas â bwlio gan ddweud bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cwblhau ymgynghoriad ar “Ganllawiau Parchu Eraill” a fyddai'n cael eu cyhoeddi eleni. Bu cryn dipyn o gamddealltwriaeth o ran yr hyn a olygir pan ddefnyddir y gair bwlio ac roedd y Canllawiau Cenedlaethol wedi bod yn ceisio llunio diffiniad clir o’r hyn yw bwlio a byddai hyn yn cael ei integreiddio i bolisi’r cyngor ar draws yr holl ysgolion.

 

Yna, fe ymatebodd i’r cwestiwn ynghylch atal cenhedlu ac fe amlinellodd y gwaith a oedd wedi’i wneud dros y 5 mlynedd diwethaf o amgylch y polisi addysg rhyw yn enwedig y cymorth a ddarparwyd gan y nyrs ysgol a oedd yn gallu darparu meddyginiaeth atal cenhedlu a chondomau ar y safle fel rhan o’i waith / gwaith. Roedd pob ysgol wedi mabwysiadu'r polisi sirol gydag asesiad risg o’r disgyblion yn cael ei gynnal cyn yr oedd unrhyw feddyginiaeth atal cenhedlu brys yn cael ei darparu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin fod hwn yn bwnc emosiynol ond roedd yn tynnu sylw at ba mor ddifrifol oedd y Cyngor yn ystyried ei gyfrifoldebau rhianta corfforaethol a maethu. Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones ei fod yn edrych ymlaen at weld y data o’r arolwg nesaf a gynhelir yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor. Cynigodd yr Ymgynghorydd Dysgu i rannu’r Cynllun Gweithredu Sirol â’r Pwyllgor wedi i’r data cenedlaethol gael ei gyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi’r cynnydd a wnaed gyda’r Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy a’r Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru yn Sir y Fflint;

 

 (b)     Nodi trosolwg o faterion allweddol ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint, a all amharu ar eu gallu i gyrraedd eu llawn botensial.

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn dymuno tynnu sylw at yr angen am addysg bellach a mesurau ataliol, a’r angen i’r holl bartneriaid asiantaeth a rheini / gofalwyr gydweithio i addysgu a chyflawni newid.

 

Awdur yr adroddiad: Claire Sinnott

Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: