Manylion y penderfyniad

Funding and Flight Path Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Nododd Mr Middleman y lefel o ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd yn ddiweddar a sut roedd hynny wedi effeithio sefyllfaoedd cyllido. Roedd y lefel cyllido yn 86% ar ddiwedd Rhagfyr 2018, wedi codi i 89% ar ddiwedd Ionawr 2019 a bellach i fyny at 91%.  Tra bo’r lefel cyllido yn ansefydlog, nododd mai’r prif beth oedd y rhagolwg ar gyfer y dyfodol a beth fydd Brexit yn ei wneud i’r economi ac enillion uwch chwyddiant. Mae’n bwysig nodi bod y fframwaith llwybr cyrraedd targed yn gweithio a bod y dull diogelu ecwiti wedi cyfrannu’n gadarnhaol pan gwympodd y marchnadoedd.

 

Siaradodd Mr Middleman am y rhaeadr sicrwydd cyfochrog sy’n golygu gwneud i'r fframwaith weithredu mor effeithiol â phosib. Fe nodwyd £100 miliwn o sicrwydd y gellid ei ryddhau a’i ddefnyddio’n fwy effeithiol i gynyddu enillion disgwyliedig. Arwyddwyd yr holl ddogfennau a disgwylir y bydd y rhaeadr yn cael ei roi ar waith erbyn diwedd y mis. Mae tudalen 288 yn nodi’r rhesymau pam bod y Gronfa yn gwneud hyn, sef er mwyn cynnal yr un lefel o reolaeth risg ym mandad LDI ond ailstrwythuro er mwyn gwneud y mwyaf o enillion. Disgwylir i’r dull hwn gynhyrchu arenillion ychwanegol o £3 miliwn y flwyddyn.

 

Nid yw’r adroddiad yn cynnwys effaith Brexit a pha mor gryf yw’r Gronfa o ystyried beth allai ddigwydd. Mae’r Gronfa yn amrywiol iawn ac mae dulliau diogelu mewn lle er mwyn ymdrin mor dda â phosib gyda’r rhan fwyaf o risgiau ar wahân i arian cyfred.  Fodd bynnag mae hyn wedi ei drafod yn y FRMG a'r Gr?p Llywio a chytunwyd arno dros dro er mwyn gweithredu mantoli cyfredol ar lefel o 50%.  Bydd hyn yn “bancio” peth o’r enillion sydd eisoes wedi eu gwneud. Bydd canlyniad hyn yn cael ei adrodd mewn mwy o fanylion mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Mr Everett o le daw’r term ‘collateral waterfall'. Cadarnhaodd Mr Middleman bod y rhaeadr yn ymwneud â dal sawl math gwahanol o asedau (y tair haen y cyfeirir atynt yn yr adroddiad) a ddefnyddir ar adegau gwahanol fel bod yr asedau â'r enillion mwyaf yn cael eu defnyddio olaf, gan gynyddu enillion cyffredinol.

 

Gofynnodd Mr Everett am fwy o wybodaeth yngl?n â beth yn union yw hyn a chadarnhaodd Mr Middleman y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cytunwyd hefyd y bydd tua £30 miliwn yn cael ei dynnu o’r QIAIF Insight er mwyn ei fuddsoddi mewn seilwaith yn unol â chyfarwyddyd JLT maes o law.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r sefyllfa o ran mantoli ar gyfer y Gronfa, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

(b)  Nododd y Pwyllgor fod y Swyddogion yn gweithio â’u hymgynghorwyr er mwyn cadarnhau proses rhaeadru sicrwydd cyfochrog gydag Insight fel y gellid rheoli’r gofynion sicrwydd cyfochrog yn well. Mae Insight yn y broses o weithredu’r broses rhaeadru sicrwydd cyfochrog a fydd yn ei lle erbyn Chwefror 2019. Cytunwyd hefyd y bydd tua £30 miliwn yn cael ei dynnu o’r QIAIF Insight er mwyn ei fuddsoddi mewn seilwaith yn unol â chyfarwyddyd JLT maes o law.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: