Manylion y penderfyniad
Investment Strategy and Manager Summary
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Rhoddodd Mr Buckland ddiweddariad bras ar yr eitem hon ar yr agenda cyn cymryd cwestiynau. Y peth cyntaf a nododd oedd bod y chwarter hyd at 31 Rhagfyr 2018 wedi bod yn un gwael. Fodd bynnag, yn y flwyddyn hyd at 31 Rhagfyr bu'n weddol fflat, oedd yn dangos ansefydlogrwydd parhaol y marchnadoedd. Siaradodd drwy dudalen 277, gan nodi bod credyd preifat yn fuddsoddiad newydd a fydd yn cymryd amser i ymrwymo iddo’n llwyr, a bod Gr?p Rheoli Risg y Gronfa, oedd yn cynnwys JLT, Mercers a swyddogion y Gronfa ar hyn o bryd yn edrych ar reoli sicrwydd cyfochrog portffolio LDI a reolir gan Insight. Mae marchnadoedd preifat mewnol yn perfformio'n well na'u targedau lle mae cronfeydd rhagfantoli a thwf amrywiol yn tangyflawni yn erbyn y meincnod. Nododd Mr Buckland bod enillion chwarterol dros 2019 wedi bod yn anghyson iawn ond amlygodd bod y Gronfa yn fuddsoddwr tymor hir a bod y perfformiad dros dair blynedd yn gadarnhaol sef 8.8% y flwyddyn. Nododd hefyd bod yr enillion ers 31 Rhagfyr wedi bod yn gadarnhaol a bod asedau wedi cynyddu o £1,784 miliwn i £1,821 miliwn ers diwedd Ionawr 2019.
Soniodd Mr Everett am yr ansefydlogrwydd hyd at y prisiad actiwaraidd a fyddai’n bryder o ystyried yr anawsterau i gyllidebau cyflogwyr, er iddo nodi bod trafodaethau ar hyn wedi bod o gymorth wrth gynllunio. Fe wnaeth atgoffa'r Pwyllgor y dylent gofio eu rôl cronfa bensiynau wrth wneud penderfyniadau am hyn ar y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 31 Rhagfyr 2018.
(b) Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yn adroddiad Diweddariad yr Economi a’r Farchnad, i ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: