Manylion y penderfyniad

Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To make recommendations to Council to close the annual budget for 2019/20 following the Council debate on 29 January and the further review work on corporate finance options and risks undertaken in the interim.

Penderfyniadau:

            Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar lafar ar Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 - adroddiad Trydydd Cam a'r Cam Clo a rhoddodd gopïau o’r sleidiau a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Roedd y sleidiau’n rhoi sylw i’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gyfreithlon a mantoledig;

·         Y sefyllfa bresennol o ran y gyllideb;

·          Diweddariad ar yr adolygiad o feysydd penodol o Gyllid Corfforaethol yn dilyn gohirio’r gyllideb yng nghyfarfod y Cyngor ar 29 Ionawr 2019;

·         Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) – y defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·         Cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a heb eu clustnodi

·         Aildrefnu dyledion a rheolaeth llif arian parod

·         Safbwyntiau proffesiynol

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa gyffredinol gan gynnwys y rhagolygon ar gyfer y Tymor Canolig.   Yn y sleidiau roedd manylion llawn am y defnydd o Dderbyniadau Cyfalaf yn cynnwys cyngor proffesiynol y Rheolwr Cyllid na ddylid defnyddio Derbyniadau Cyfalaf i ad-dalu dyled.  Rhoddwyd gwybodaeth fanwl hefyd ar y defnydd o gronfeydd heb eu clustnodi ac wedi eu clustodi, yn cynnwys yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar y blynyddoedd i ddod.  Argymhelliad y Rheolwr Cyllid yw y dylid defnyddio swm ychwanegol o £0.321m o gronfeydd wrth gefn dros ben sydd wedi cronni yn y flwyddyn, a fyddai’n addasiad rhesymol (sef £0.189m o gronfeydd heb eu clustnodi a £0.132 o gronfeydd wedi’u clustnodi).

 

Darparwyd dadansoddiad o ffioedd Band D, yn cynnwys y cynnydd blynyddol, misol ac wythnosol.  Roedd hyn yn cynnwys praeseptau Cynghorau Tref a Chymuned  a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

 Ni fu unrhyw newid ym marn broffesiynol y Swyddog Adran 151/Rheolwr Cyllid Corfforaethol na'r Prif Weithredwr. Yn ychwanegol at eu barn ar yr uchod cafwyd eu barn ar y dyfodol.  Dywedasant bod cynaladwyedd cyllidebau’r Cyngor dan fygythiad difrifol gyda dim ond ychydig o opsiynau o unrhyw faint ar ôl o ran dewisiadau gwasanaeth lleol.  Roedd pryder ynghylch y ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn sy’n mynd yn llai flwyddyn ar ôl blwyddyn pan osodir y gyllideb, gydag amlder ymrwymiadau cenedlaethol heb eu hariannu yn achosi pryder mawr.  Roedd yn anodd gweld sut y gallai'r Cyngor fantoli'r gyllideb ar gyfer 2020/21 ymlaen heb wrthdroi'r polisi ariannol cenedlaethol i ryw raddau.  Roedd cynllunio cynnar ar gyfer 2020/21 – 2022/23 yn hanfodol bwysig gyda rhagolygon diweddaredig ar gyfer y tymor canolig

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y dyddiad ar gyfer derbyn cwestiynau/ceisiadau gan yr Aelodau wedi mynd heibio ac nad oedd yn ymarferol bellach i swyddogion ymateb i’w cwestiynau.  Roedd yr aelodau wedi cael eu hysbysu o hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton mai hon oedd y gyllideb anoddaf hyd yma i'r Cyngor a chytunodd bod yn rhaid gwrthdroi'r polisi ariannol cenedlaethol.  Soniodd am y blynyddoedd anodd sy'n wynebu'r Cyngor a bod angen cadw hynny mewn cof gan y byddai unrhyw ddefnydd ychwanegol o'r cronfeydd wrth gefn yn gwaethygu problemau yn y blynyddoedd i ddod.  Nid oedd yn gyfforddus gyda'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ond doedd dim opsiynau eraill ar gael.

 

Dosbarthwyd cyfres o benderfyniadau arfaethedig a dderbyniwyd gan holl Aelodau’r Cabinet.

 

            Mynegodd Cynghorydd Attridge ei siom nad yw Llywodraeth Cymru’n blaenoriaethu llywodraeth leol fel y gwnaethant gydag Iechyd.  Dywedodd fod rhai awdurdodau lleol eraill yn mynd i godi eu Treth y Cyngor fwy na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn Sir y Fflint ond er hynny mae Sir y Fflint yn parhau i ddarparu mwy o wasanaethau.  Dywedodd bod tri cartref gofal yn Sir y Fflint o hyd tra bo awdurdodau lleol erall wedi cau eu cartrefi hwy.  Roedd yn cytuno â chyngor proffesiynol y Swyddog Adran 151 a’r Prif Weithredwr, ynghyd â Swyddog Archwilio Cymru (SAC) a oedd wedi’i nodi yn y sleidiau.  Roedd yn cefnogi’r argymhellion, yn arbennig yr argymhelliad y dylid sefydlu gweithgor trawsbleidiol i wneud cynigion i Lywodraeth Cymru ar system ariannu sydd yn fwy cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

 

            Cytunodd Cynghorydd Bithel nad oedd unrhyw opsiynau eraill ar gael, gan gytuno hefyd mai cwmpas cyfyngedig oedd i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau ac y byddai defnyddio mwy na'r hyn sy'n cael ei argymell yn beth di-hid i'w wneud.  Pe bai’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn cael ei osod ar lefel is na hyn, byddai’n arwain at orfod rhoi’r gorau i wasanaaethau hollbwysig.

 

            Rhoddodd Cynghorydd Thomas enghraifft o hyn, gan ddweud pe bai’r cynnydd 1% yn llai y gallai hynny arwain at gasgliadau bin bob 3-4 wythnos ac mai'r gwahaniaeth i dalwyr Treth y Cyngor fyddai £0.23c yr wythnos.

 

            Dywedodd Cynghorydd Roberts bod y Cyngor yn cael eu gorfodi i godi Treth y Cyngor ac er yn anfodlon, doedd gan yr aelodau ddim dewis ond cefnogi’r cynnydd – rhaid rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

            Diolchodd Cynghorydd Shotton i'r holl swyddogion cysylltiedig am y gwaith a wnaed ar y gyllideb.

 

            Byddai copiau o benderfyniadau’r Cabinet yn cael eu darparu yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor yn cael eu cynghori bod y ddyletswydd i osod cyllideb gyfreithlon a mantoledig yn ddyletswydd sylfaenol ac yn un na ellir ei gohirio na’i hesgeuluso.  Rhaid i'r Cyngor ystyried y gwariant angenrheidiol ar gyfer 2019/20 a'r tymor canolig wrth osod y gyllideb flynyddol.  Gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi newid eu safiad ar y dyraniad cyllid i lywodraeth leol ar gyfer 2019/20, ac yng ngoleuni'r cyngor a'r farn broffesiynol a roddwyd gan swyddogion statudol, yr unig opsiynau sydd ar agor i'r Cyngor i fantoli'r gyllideb yw Treth y Cyngor a'r defnydd cymesur o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

(b)       Mae’r Cyngor yn argymell i’r Cyngor y defnydd pellach o gyfuniad o gronfeydd wedi’u clustnodi (£132k) a heb eu clustnodi (£189k) a balansau o £321k i leihau’r bwlch sy’n weddill yn y gyllideb.  Bydd gofyniad cyllideb o £2.782 ar ôl y bydd yn rhaid iddo ddod o Dreth y Cyngor (i gynnwys yr ardoll ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru).  Argymhellir codiad o 8.75% i gwrdd â’r gofyniad hwn.  O gyfuno hyn gyda phraeseptau Cymunedau Tref a Chymuned a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd bydd y codiad blynyddol yn dod i gyfartaledd o 8.38% ar gyfer eiddo Band D, cyfwerth â £10.33 y mis yn ychwanegol.

 

(c)        Bod y Cabinet yn gwahodd y Cyngor i nodi ei bod yn anorfod y bydd mwy o ddibyniaeth ar Dreth y Cyngor i ariannu gwasanaethau lleol yn sgil polisiau cyllido Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod polisi o leihau’r Grant Cymorth Refeniw gyda disgwyl i Gynghorau yn Lloegr fod yn fwy annibynnol a dibynnu ar Dreth y Cyngor, Trethi Annomestig Cenedlaethol argadwedig ac incwm arall i noddi’r rhan fwyaf o’u gwariant, ac mae Llywodraeth Cymru wrth wneud ei gyfrifiadau ei hun wedi gwneud tybiaeth gweithiol y bydd Treth y Cyngor yn codi 6.5% ar gyfartaledd ar draws Cymru.

 

(d)       Bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn derbyn gwahoddiad y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud cynigion ar gyfer system ariannu fwy cynaliadwy a chyfartal ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru; a

 

(e)       Bod y Cabinet yn gwahodd y Cyngor i sefydlu gweithgor trawsbleidiol        gyda chefnogaeth cyngor proffesiynol mewnol ac arbenigedd allanol i    wneud cynigion i Lywodraeth Cymru a’r teulu llywodraeth leol yng            Nghymru i ddilyn (d) uchod.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 28/02/2019

Accompanying Documents:

  • Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage