Manylion y penderfyniad

Flintshire Electoral Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To agree the final proposals to send to the Local Democracy and Boundary Commission for Wales. 

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint. Roedd yr atodiad i’r adroddiad yn amlinellu'r cynigion i'w cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi eu seilio ar y gwaith helaeth a wnaed gydag Aelodau.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr y côd lliw yn yr atodiad, a dywedodd os oedd Aelodau yn cytuno fod y ddogfen yn cyfleu yr awgrymiadau a wnaed ganddynt yna byddai’n cael ei hanfon at y Comisiwn.  Y côd lliw oedd:

 

·         Gwyrdd - cynigion lle'r oedd yna gytundeb a’i fod o fewn amrywiant o 25% o’r cyfartaledd arfaethedig ar gyfer y Sir;

·         Oren - cynigion lle'r oedd yna beth anghytundeb ond roedd yn opsiwn a gâi ei ‘ffafrio’ ac roedd o fewn amrywiant o 25% o'r cyfartaledd arfaethedig ar gyfer y Sir; a

·         Coch – cynigion lle nad oedd yna unrhyw gytundeb neu nad oedd y cynigion yn cydymffurfio gan nad oeddent o fewn yr amrywiad o 25% o gyfartaledd y Sir.

 

Yn dilyn nifer o sylwadau ac awgrymiadau gan Aelodau, cytunwyd y byddai’r ddogfen yn dangos yn glir pa opsiynau oedd yn ymwneud â pha liw pan gaiff mwy nag un opsiwn ei ddangos.

 

Teimlai’r Cynghorydd Richard Lloyd y dylai’r ddogfen gynnwys cyfeiriad at wardiau etholiadol unigol Aelodau.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Brown dywedodd y Prif Weithredwr y gellid gofyn i’r Comisiwn Ffiniau faint roedd yr adolygiad wedi ei gostio.

 

Byddai’r Comisiwn nawr yn paratoi Cynigion Drafft ar gyfer y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint a fyddai’n cael eu cyhoeddi yn Hydref 2019 – byddai cyfnod ymgynghori o 12 wythnos yn dilyn wedyn. Yng Ngham Tri byddai’r Comisiwn yn paratoi Adroddiad Cynigion Terfynol a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn 2020 yn ogystal â’r rhai ar gyfer holl Gynghorau eraill Cymru.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r tîm am y gwaith a wnaed gydag Aelodau ar yr adolygiad etholiadol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y byddai’r cynigion yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gyda’r ddogfen yn dangos yn glir pa liw sy'n cyd-fynd â pha opsiwn; a

 

 (b)      Bod y Cyngor yn darparu gwybodaeth gefndir i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn cefnogaeth i’r cynigion cadarnhaol a gaiff eu cynnwys yn yr atodiad ac, yn achos yr ardaloedd hynny lle na chafodd unrhyw gynnig ei wneud oedd yn cydymffurfio, y set gyflawn o opsiynau i’w hystyried gan Aelodau.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 18/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 29/01/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/01/2019 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: