Manylion y penderfyniad
Housing Revenue Account (HRA) Budget 2019/20, HRA Business Plan Narrative & Summary HRA 30 year Financial Business Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the proposed Housing Revenue
Account (HRA) Business Plan and Budget for 2019/20
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2019/20, naratif a chrynodeb Cynllun Busnes HRA a Chynllun Busnes ariannol 30 blynedd HRA.
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:
· Cyflawniadau HRA 2018/19
· Rhaglen adeiladu tai y cyngor
· Cynllun busnes 30 mlynedd
· Cyllideb 2019/20
o Incwm
o Taliadau gwasanaeth 2019/20
o Cynigion effeithlonrwydd HRA a’r defnydd o gyllid untro
o Penderfyniadau buddsoddi HRA arfaethedig a phwysau o ran cost
· Rhaglen gyfalaf y HRA 2019/20
· Gweithgarwch HRA yn y dyfodol
Ymysg nifer o gyflawniadau allweddol oedd perfformiad y Cyngor ar brentisiaethau a safonau gwasanaethu nwy a gefnogwyd drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a Rhaglen Adfywio a Thai Strategol. Bydd darparu’r olaf yn cael ei wella ymhellach os llwydda’r Cyngor i ddenu cyllid grant Llywodraeth Cymru tuag at gynllun rhandai fforddiadwy yn Garden City.
Eglurodd y Cyfrifydd y rhagdybiaethau allweddol ar gyfer 2019/20 yn cynnwys cynnydd arfaethedig o £1 yr wythnos ar gyfer rhenti garejys a £0.20 yr wythnos ar gyfer rhenti plotiau garejys. Ni chynigwyd newidiadau ar gyfer taliadau gwasanaeth tra'r oedd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflawni. Rhoddwyd eglurhad dros y newidiadau i gyllid HRA ers y flwyddyn flaenorol a phenderfyniadau buddsoddi HRA arfaethedig a phwysau costau sy’n arwain at gyfraniad rhagamcanol o £0.158 miliwn i’r cronfeydd wrth gefn.
Darparodd Rheolwr Tîm Rhaglen Gyfalaf wybodaeth ar y mathau o waith o fewn Rhaglen Gyfalaf HRA lle'r oedd canolbwynt ar Safon Ansawdd Tai Cymru yn newid er mwyn cynnwys gwaith amgylcheddol.
Canmolodd y Cadeirydd gyflawniadau’r HRA a groesawyd gan y tenantiaid.
Cafodd hyn ei adleisio gan y Cynghorydd Shotton a ofynnodd i Aelodau dderbyn diweddariad ar Safon Ansawdd Tai Cymru. Cytunodd y Prif Swyddog y bydd y rhaglen ar sail ardal yn cael ei rannu, unwaith y caiff ei ddiweddaru. Ar gais i Aelodau gyfarfod â swyddogion Tai, awgrymodd y Cynghorydd Attridge y dylid trefnu sesiwn galw heibio ar ôl i’r adolygiad ddod i ben.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Prif Swyddog fanylion ar yr adolygiad o’r garejys. Cytunodd i ddosbarthu ymateb ar y nifer o Brentisiaethau a benodwyd i swyddi llawn amser ac ymchwilio i adroddiadau am fan y Cyngor sydd wedi’i barcio yng Ngharmel.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Dolphin a Hardcastle, amlinellodd Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf y dosbarthiadau amrywiol ar gyfer ‘methiannau derbyniol’ yn Safon Ansawdd Tai Cymru, a dywedodd bod gwiriadau’n cael eu cyflawni i asesu cyflwr yr eiddo hynny. Mae’r ymarfer o wiriadau cyn asesu yn helpu i ganfod unrhyw gyflyrau meddygol sydd gan y tenant, fel y gellid cydlynu gwaith yn y ffordd fwyaf priodol.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Reece, cadarnhawyd bod eiddo brics soled wedi'u cynnwys yn y rhaglen waith allanol.
Canmolodd y Cynghorydd Davies y gwaith a gyflawnwyd yn Melrose Court. Pan ofynnwyd am ganlyniad yr adolygiad garejys, gofynnodd y Cynghorydd Attridge i swyddogion rannu’r rhaglen waith gydag Aelodau.
O ran Safon Ansawdd Tai Cymru, gofynnodd y Cynghorydd Palmer sawl eiddo oedd wedi bodloni’r Safon a sawl un oedd ar ôl i’w gwblhau cyn 2020. Dywedodd y Rheolwr Tîm bod holl waith uwchraddio cydrannau wedi eu cwblhau mewn oddeutu 1,200 eiddo, a disgwylir i'r gweddill gael eu cwblhau erbyn y dyddiad cau. Cytunodd y byddai’n rhannu’r ffigyrau a oedd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
Wrth groesawu’r gwaith ar y safleoedd garej, dywedodd y Cynghorydd Hughes bod hyn wedi arwain ar broblemau parcio mewn rhai ardaloedd. Pan ofynnwyd am osod cyrbau is tu allan i eiddo, dywedodd y Cynghorydd Attridge bod preswylwyr preifat yn gallu trefnu eu contractwr eu hunain, yn amodol eu bod yn bodloni’r meini prawf sydd ar gael drwy Oruchwylwyr Strydwedd.
O ran y rhaglen SHARP, dywedodd y Cynghorydd Attridge bod safleoedd posibl eraill yn cael eu harchwilio ar gyfer datblygu, yn cynnwys Bwcle. Anogodd y Prif Swyddog i Aelodau ddod ymlaen gydag unrhyw awgrymiadau am safleoedd addas.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cyllideb y cyfrif refeniw tai a’r cynllun busnes ar gyfer 2019/20, fel y nodir yn yr adroddiad;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (a hyd at £2);
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys; a
(d) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2019/20 fel y nodwyd yn Atodiad C.
Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton (old)
Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Dogfennau Atodol: