Manylion y penderfyniad

Regional Carers Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To present the regional strategy which has been developed following the completion of the North Wales Population Needs Assessment and agreement of a series of action plans by the Regional Partnership Board.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar y Strategaeth Ranbarthol Gofalwyr, a oedd yn cynnwys manylion y penderfyniadau a’r gweithgarwch allweddol wrth ddatblygu strategaeth gofalwyr ar gyfer gogledd Cymru.

 

            Roedd yno dair elfen i’r strategaeth:

 

1.    Gweledigaeth Gogledd Cymru ar gyfer Gwasanaethau i Ofalwyr;

2.    Safonau Gwasanaeth; a

3.    Chynllun Gweithredu.

 

Roedd y weledigaeth ar gyfer gwasanaethau’n cynnwys amrywiaeth o ganlyniadau llesiant, a byddai pob sefydliad a fyddai’n ymrwymo i’r strategaeth yn cytuno i gyflawni’r amcanion canlynol:

 

  • Hybu ymwybyddiaeth o ofalwyr a gofalu ymysg pobl yn gyffredinol, a phob aelod perthnasol o staff yn y sector iechyd a gofal;
  • Meddwl am ofalwyr wrth gomisiynu gwasanaethau ac asesu anghenion, gan roi sylw i ardaloedd gwledig a’r bobl sydd bellaf o’r gwasanaethau am resymau eraill;
  • Cynnwys gofalwyr o bob gr?p a chymuned mewn prosesau penderfynu a chynllunio; ac
  • Adnabod gofalwyr yn gynnar pan fyddant yn cysylltu â gwasanaethau am y tro cyntaf.

 

Fel cyflogwyr, byddai gofyn i bartneriaid adnabod gofalwyr yn eu sefydliadau hwy; mabwysiadu seilwaith sy’n gyfeillgar i ofalwyr; ymrwymo i sicrhau darpariaeth deg i ofalwyr; darparu cyfleoedd i ofalwyr leisio’u barn yn y gweithle; a galluogi trefniadau gweithio hyblyg lle bo hynny’n rhesymol ac yn ymarferol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y strategaeth yn cyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a oedd yn rhoi gwell hawliau i ofalwyr o bob oed ac yn symleiddio’r gyfraith. Am y tro cyntaf roedd gan ofalwyr hawliau cyfartal â’r bobl oedd yn derbyn gofal ganddynt.

 

Cyhoeddwyd Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ar 1 Ebrill 2017 a oedd yn dweud fod gofalwyr yn gwneud cyfraniad hollbwysig at y ddarpariaeth gofal a chymorth, ac amcangyfrifwyd eu bod yn darparu rhwng 75% a 95% o’r holl ofal, gan arbed £0.72 biliwn bob blwyddyn i’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Pwysleisiodd mor bwysig oedd sicrhau mynediad at wybodaeth a bod cyngor ar gael i ofalwyr, gan fod llawer ohonynt yn dweud nad oeddent yn ymwybodol o’u hawliau.Roeddent hefyd yn dweud na wyddent pa wybodaeth a chymorth oedd ar gael iddynt.

 

Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r Prif Swyddog, yr Aelod Cabinet a’r tîm am y gwaith a wnaethpwyd ar y strategaeth, ac am gydnabod gwerth gofalwyr a’r cymorth oedd ei angen arnynt.

 

Soniodd y Cynghorydd Roberts am blant ysgol oedd yn gofalu, a’r heriau’r oeddent yn eu hwynebu, gan gynnwys presenoldeb a phrydlondeb yn yr ysgol a bod o dan straen. Esboniodd y Prif Swyddog fod llawer o waith yn digwydd gyda’r ysgolion a bod y strategaeth yn rhoi blaenoriaeth i ofalwyr ifanc. Roedd y Cyngor yn gweithio â sefydliadau galluog yn y trydydd sector a oedd yn helpu i adnabod plant ysgol a oedd yn ofalwyr, ac yn ymdrin â hwy’n sensitif wrth ddarparu cymorth a sicrwydd. Cyfeiriodd at y cerdyn ‘Action for Access’ a roddwyd i ofalwyr ifanc yn yr ysgol, ond erbyn hyn daethpwyd i’r casgliad mai dim ond un ffordd o ddarparu cymorth oedd hynny; roedd cymorth beunyddiol ar gael mewn ysgolion, ac roedd hynny’n allweddol. Serch hynny, roedd yno hefyd ofalwyr ifanc nad oedd y Cyngor yn gwybod amdanynt – roedd ysgolion, gweithwyr iechyd a’r sector gwirfoddol oll yn gweithio’n agos â’r Cyngor i adnabod y gofalwyr hynny a rhoi cymorth iddynt.

 

Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gofyn am gynnal cyfarfod i drafod gofalwyr ifanc yn benodol.

 

Roedd y Cynghorwyr Bithell a Mullin yn croesawu’r adroddiad, a soniont mor bwysig oedd gwaith y Cyngor a sefydliadau eraill, ac mor ymroddgar oedd yr holl ofalwyr ledled y Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn Strategaeth Gogledd Cymru ac ymrwymo iddi.

Awdur yr adroddiad: Emma Cater

Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 31/01/2019

Accompanying Documents: