Manylion y penderfyniad

Officers' Code of Conduct

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Bu i’r Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad ar God Ymddygiad Swyddogion fel rhan  o adolygiad treigl o Gyfansoddiad y Cyngor.  Bu iddo ddarparu eglurhad ar ddiwygiadau arfaethedig er mwyn rhoi arweiniad cliriach ac adlewyrchu newidiadau i swyddi a gwasanaethau’r Cyngor.

 

Bu i’r Pwyllgor gytuno ar y newidiadau ychwanegol canlynol:

 

·         newid y teitl i ‘God Ymddygiad Cyflogeion’.

·         Newid y gair ‘dylid’ i ‘rhaid’ yn y ddogfen drwyddi draw.

·         Aralleirio paragraff 10.2 er mwyn adlewyrchu na fyddai caniatâd yn cael ei roi i ymgymryd a gwaith allanol am gyflog fyddai’n gorgyffwrdd a rôl sylfaenol y cyflogai ac y byddai angen mwy o ystyriaethau os nad dyna fyddai’r achos.

·         Paragraff 10.3 i gyfeirio at ‘ddefnyddio’ cyfleusterau’r Cyngor a gohebiaethau a anfonir yn ogystal â rhai a dderbynnir.

·         Ail frawddeg paragraff 11.14 i gyfeirio at geisio cyngor gan ‘eu’ Rheolwr.

·         Cywiro’r gwall argraffyddol ym mhwynt bwled olaf adran 4 ffurflen Datganiad Cysylltiad Swyddogion.

·         Ychwanegu ‘Adran’ i adran 1 datganiad Cynnig neu Dderbyn Rhodd/Lletygarwch Swyddogion a chynnwys ‘anfonwyd i’r gweithle’  yn y drydedd adran a sut y cynigwyd neu y derbyniwyd hynny.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson, cytunodd y Swyddog Monitro y dylid ymgynghori â Chydbwyllgor Undebau Llafur Sir y Fflint ynghylch y dogfen adolygedig, a y dylid adrodd ar y deilliant i’r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r canllawiau eglurhaol a’r ffurflenni yn y Cod Ymddygiad Swyddogion; a

 

(b)       Chyflwyno’r Cod Ymddygiad Swyddogion diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad i gyfarfod nesaf Cydbwyllgor Undebau Llafur Sir y Fflint ac adrodd yn ôl ar y deilliant i’r Pwyllgor Safonau.

Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew

Dyddiad cyhoeddi: 27/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 07/01/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/01/2019 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: